Diolch eich dau - a diolch am eglurhad mor fanwl Muiris.
 
Annes

 
2007/11/8, Geraint Løvgreen <[log in to unmask]>:
Faswn i bob amser yn mynd am y trydydd dewis - hynny yw, Golwg a'r Cymro, nid Golwg ac Y Cymro.
----- Original Message -----
From: [log in to unmask]" onclick="return top.js.OpenExtLink(window,event,this)" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">annes gruffydd
To: [log in to unmask]" onclick="return top.js.OpenExtLink(window,event,this)" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">[log in to unmask]
Sent: Thursday, November 08, 2007 8:10 AM
Subject: and The

 
Son rydw i am deitla, ee and The Cherry Orchard. Dwi bob amsar wedi cael fy siarsio i ymorol bod unrhyw fannod yn gywir mewn teitl. Sy'n gadael y broblam - a Y Berllan Geirios, ac Y Berllan Geirios neu a'r Berllan Geirios. Maen nhw i gyd yng anghywir a'r ddau gynta'n hyll - tybed ai'r trydydd ydi'r lleia o'r tri drwg? Fuo Bruce a fi'n son am hyn mewn cynhadledd cyfeitihwyr yng Ngregynog rai blynyddoedd yn ol a doedd gan y Gamaliel hwnnw ddim ateb boddhaol i'w gynnig (gyda llaw, tydi newid trefn y rhestr ddim bob amsar yn ateb y broblem - weithia maen nhw i gyd yn dechra efo Y). Oes gan rywun gynnig?
 
Annes