Da iawn y bobl! Os ydi Caerdydd yn cael hepgor y cysylltnod mae'n iawn i Dresaith a Blaenplwyf gael gwneud hefyd! ----- Original Message ----- From: Roberts, Nia To: [log in to unmask] Sent: Thursday, November 29, 2007 1:51 PM Subject: Re: Tresaith a Blaenplwyf Wel, Ann, dw i'n cofio helynt ofnadw ychydig o flynyddoedd yn ôl pan oedd Ceredigion yn adnewyddu rhai o'r arwyddion lleoedd. Tresaith fu ar yr hen arwydd am flynyddoedd maith, er mai Tre-saith yw'r ffurf gywir. Pan gynigiodd Ceredigion godi arwydd Tre-saith, fe fu 'na helynt ofnadw - pobl leol yn dadlau mai Tresaith oedd y ffurf ers blynyddoedd, a'r awdurdode'n dadlau mai Tre-saith yw'r ffurf gywir. Os ydw i'n cofio'n iawn, y bobl a orfu! -----Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett Sent: 29 November 2007 12:59 To: [log in to unmask] Subject: Tresaith a Blaenplwyf Os gwelwch yn dda, ga i ofyn i rywun sydd ag argraffiad diweddaraf y "Gazetteer" i edrych beth sydd ynddo ar gyfer yr enwau hyn? Mae argraffiad 1975, sydd gen i, yn gosod cysylltnod yn y ddau enw uchod, ond mai Cysill yn awgrymu y dylwn ei dynnu eto. Diolch yn fawr iawn ichi, Ann ****************************************************************** This e-mail and any files transmitted with it are confidential and intended solely for the use of the individual or entity to whom they are addressed. If you have received this e-mail in error, please notify the administrator on the following address: [log in to unmask] Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn gyfrinachol ac at ddefnydd yr unigolyn neu'r corff y cyfeiriwyd hwy atynt yn unig. Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn drwy gamgymeriad, dylech hysbysu'r gweinyddydd yn y cyfeiriad canlynol: [log in to unmask] *******************************************************************