Print

Print


neu 'taith faeth"

On 29 Nov 2007, at 12:09, Geraint Løvgreen wrote:

Dwi'n hoffi 'cerbyd cawl' am y rhesymau a roddodd David - ella nad ydio'n ddisgrifiad manwl gywir o'r hyn sy'n digwydd, ond wedyn mae'n debyg nad ydi 'soup run' yn ddisgrifiad cywir chwaith, o gofio nad 'soup' ydi'r maeth a gludir yn aml iawn. Beth sy'n fwyaf tebygol o gael ei ddefnyddio sydd eisiau, gan gofio mai 'soup run' mae pobl yn ei ddweud ar lafar.
 
Os nad cerbyd - beth am 'cyrch cawl'?
 
----- Original Message -----
From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]">Catrin Alun
To: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Thursday, November 29, 2007 10:09 AM
Subject: Re: soup run

Roedd ein capel ni'n arfer gwneud 'soup run' yn Abertawe - ac a bod yn onest, cawl oedd y peth ola' oedden nhw'n ei ddosbarthu!! Brechdanau a ffrwythau ac ati oedd yn cael ei roi i'r digartref ar y cyfan.  Ac ie, 'soup run' oedd y term ar lafar hefyd!!
 
Mynd â bwyd i'r digartref ydy'r ystyr - dydy 'cerbyd cawl' ddim wir yn gywir, achos byddai angen mynd allan o'r car i chwilio am y cleientiaid!  Y 'run' oedd y trywydd o gwmpas y ddinas - roedd pawb yn dilyn yr un trywydd bob nos, ac yn gwybod lle i ffeindio'r rhai oedd angen y gwasanaeth.  Bosib y byddai 'taith fwydo' yn gweithio?
 
Catrin
----- Original Message -----
From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]">Melanie Davies
To: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Thursday, November 29, 2007 8:34 AM
Subject: Re: soup run

Oes modd chwarae a'r gair cludo e.e. rwy'n 'cludo cawl' heno?  Ond byddai'n anodd trosi hwnna'n enw mae'n siwr.
 
 
----- Original Message -----
From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]">David Bullock
To: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Thursday, November 29, 2007 8:22 AM
Subject: Re: soup run

Allech chi gael ‘cerbyd cawl’ tybed?

 

Rwy’n credu y byddai defnyddio’r un rhan ymadrodd yn helpu i sicrhau bod y fersiwn Cymraeg yn mynd i gydio. Byddai gwirfoddolwr Cymraeg yn debyg o ddweud ‘Wi’n helpu ar y soup run heno’, a byddai pobl y palmant yn debyg o ddweud ‘Geso i gino neis gyda’r soup run nithwr’.

 

Byddwn i’n meddwl bod gyda chi well gobaith o’u cael nhw i ddweud ‘Wi’n helpu ar y cerbyd cawl’ neu ‘Wi’n helpu ar y garafán gawl’ nac o ddweud ‘Wi’n helpu i borthi pobl y palmant heno’.

 

Ac os bydd cynghorau a chyrff gwirfoddol yn cyhoeddi adroddiadau, fe ddwedan nhw rywbeth fel ‘The Salvation Army operates three soup runs, and the fourth soup run in the city is organised by Social Services’ neu beth bynnag. Yma eto, fe allai fod yn hwylus cael yr un rhan ymadrodd.

 

 


Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Geraint Løvgreen
Anfonwyd/Sent: 28 Tachwedd 2007 22:34
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: soup run

 

car NEU fan, nid carafan !!!!

 

porthi pobl y palmant ?

----- Original Message -----

From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]">Alwyn Evans

To: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]

Sent: Wednesday, November 28, 2007 9:55 PM

Subject: Re: soup run

 

In a message dated 28/11/2007 21:23:04 GMT Standard Time, [log in to unmask] writes:

 

Carafan Gawl?

Alwyn




No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition. 
Version: 7.5.503 / Virus Database: 269.16.9/1155 - Release Date: 27/11/2007 20:30