Print

Print



Wps, newydd sylweddoli mai ateb cwestiwn Wyn wnes i! Ymddiheuriadau - ond byddwn i'n dal i fod o blaid y ffurf 'mwy o faint' mewn cyd-destun swyddogol. Gall 'mwy' wneud y tro mewn cyd-destunau llai ffurfiol, wrth gwrs, ar yr amod nad yw'n creu amwysedd.
 
Berwyn
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">David Bullock
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Wednesday, November 07, 2007 8:18 AM
Subject: ATB: outbreak

Eitha da, Berwyn, chwarae teg.  Ond beth ges i i frecwast ar 06.07.1999?!

 


Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Berwyn Jones
Anfonwyd/Sent: 06 Tachwedd 2007 21:43
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: outbreak

 

Mae gen i gopi o nodyn gan Delyth (Prys) at David (Bullock) ynghylch 'outbreak', a'r dyddiad a nodais arno yw 06.07.1999. Tybed ai at hwnnw rwyt ti'n cyfeirio, David?

 

Dyma fe yn union fel y'i hanfonwyd:

 

"Outbreak

 

Awgrym Cymraeg: haint (yn brigo)

 

diffiniad: the sudden or violent start of something unwelcome, such as war, disease, etc (New Oxford Dictionary of English)

 

ymadroddion enghreifftiol:

the outbreak control team - tîm rheoli'r haint

sporadic cases and outbreaks - achosion ysbeidiol a brigiadau o'r haint

during an outbreak regular updates are necessary - pan fo'r haint wedi brigo mae angen adroddiadau rheolaidd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf

 

Mae'r enghreifftiau i gyd yn cyfeirio ar lid yr ymennydd a'r tebyg. Mae'n gymorth yn y Gymraeg i fanylu ar 'outbreak' yn y cyd-destun hwn felly fel term sy'n cyfeirio at afiechyd yn unig: outbreak (of disease). Mae'n bur agos felly at y term 'epidemic' (cf. diffiniad y NODE o hwn fel 'a widespread occurrence of an infectious disease in a community at a particular time') a byddai'n gweddu ym mhob un o'r ymadroddion enghreifftiol uchod. Gellid dadlau fod 'epidemic' yn waeth nag 'outbreak' ond mae'n bosibl mai awydd y gymuned feddygol o beidio ag achosi panig sy'n peri iddynt ddefnyddio 'outbreak' yn hytrach nag 'epidemic' yma!

Mae Geiriadur yr Academi Gymreig yn cyfieithu 'epidemic' fel 'haint, epidemig' a Geiriadur Prifysgol Cymru yn rhoi ar gyfer 'haint' 'any fatal infectious or contagious disease, pestilence, (the) plague'.

Tybiwn felly fod 'haint' yn ddigonol i gyfateb i 'outbreak' fel lled-gyfystyr i 'epidemic'

 

Weithiau fodd bynnag, mae angen mwy na 'haint' i gyfleu beth sy'n gwneud 'outbreak' yn wahanol i 'sporadic cases', a bryd hynny gellir ychwanegu bod yr haint wedi 'brigo' h.y. wedi torri trwodd, naill ai delwedd y pwll glo a'r chwarel o'r graig yn brigo i'r wyneb neu ddelwedd yr ŷd a'r tywysennau yn ymffurfio. Rhaid gofalu fodd bynnag nad yw 'brig' yn cael ei ddefnyddio fel enw lle gellid ei gymryd i olygu 'uchafbwynt' oherwydd mae hynny'n cyfleu cam mwy difrifol eto yn yr heintiad (gellir fodd bynnag ddefnyddio'r ffurf 'brigiad' fel enw os na ellir defnyddio'r berfenw)."

 

Berwyn

 

----- Original Message -----

From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">David Bullock

To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]

Sent: Tuesday, November 06, 2007 4:48 PM

Subject: ATB: outbreak

 

Wi’n cofio defnyddio ‘brigiad’ i gyfleu ‘outbreak’ pan o’n i’n gweithio yn y Swyddfa Gymreig ers llawer dydd, pan fyddai brawddeg fel “an outbreak is defined as at least four cases of disease occurring within a two mile radius” yn codi.

 

Mae’n rhaid bod hyn tua saith neu wyth mlynedd yn ôl, a does gen i ddim syniad felly pwy awgrymodd ei ddefnyddio gynta.

 

 


Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Siân Roberts
Anfonwyd/Sent: 06 Tachwedd 2007 15:36
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: outbreak

 

Meddwl o'n i - pwy ddechreuodd ddefnyddio 'brigiad' fel hyn?

Does dim sôn amdano yn GyrA, GPC, y Termiadur, Geiriadur Ar-lein Prifysgol Cymru Llambed na Welsh-Termau-Cymraeg ond mae i'w weld yn lled aml mewn dogfennau swyddogol wrth Gwglo.

Dw i bron yn siwr ei fod yn air da - rhywun wedi gweld y tebygrwydd rhwng outbreak ac outcrop

 

On 6 Nov 2007, at 15:09, Saunders, Tim wrote:

 

Wele un enghraifft o blith llawer:

'sefydlu ardal o gwmpas y safle lle y cafwyd brigiad o'r clefyd ac yn darparu ar gyfer hollti'r ardal hon yn barth diogelu a pharth goruchwylio'  = 'establish an area around an outbreak site of the disease and provides for this area to be split into a protection zone and a surveillance zone'Gorchymyn Clwy Affricanaidd y Moch (Cymru) 2003, Nodyn Esboniadol

 

 

Tim

Tim Saunders
Cyfieithydd / Translator
Uned Cyfieithu Cyngor Rhondda Cynon Taf / Rhondda Cynon Taf Council Translation Unit
Ty Trevithick
Abercynon
Rhondda Cynon Taf CF45 4UQ
Ffôn +44-(0)-1443-744000

Nid yw'r e-bost hwn nag unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef o angenrheidrwydd yn adlewyrchu barn Cyngor Rhondda Cynon Taf.
Mae'r wybodaeth sydd yn y ddogfen hon yn gyfrinachol. Fe all fod yn gyfreithiol freintiedig.
Bwriedir yr e-bost ar gyfer y person neu'r sefydliad a enwir uchod. Os derbyniwyd yr e-bost hwn trwy gamgymeriad,
dylid hysbysu'r anfonydd a dileu'r e-bost oddi ar eich system os gwelwch yn dda.
Os mai nid i chi y bwriadwyd ef ac nid chi yw'r cyflogwr na'r asiant sy'n gyfrifol am roi'r e-bost i'r derbynnydd bwriadedig,
fe'ch hysbysir gan hyn na chaniateir i chi ddefnyddio, adolygu, lledaenu, dosbarthu na chopio'r e-bost ar unrhyw gyfrif.
Fe all fod gwneud hynny yn anghyfreithlon.



This e-mail and any files transmitted with it are not necessarily the view of Rhondda Cynon Taf Council.
The information contained in this communication is confidential. It may be legally privileged.
It is intended only for the person or entity named above.
If you have received this e-mail in error please notify originator and erase this e-mail from your system.
If you are not the intended recipient or the employer or agent responsible for delivering it to the
intended recipient, you are hereby notified that any use, review, dissemination, distribution or copying
of the e-mail is strictly prohibited. To do so may be unlawful.

-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Siân Roberts
Sent: 06 November 2007 14:32
To: [log in to unmask]
Subject: Re: outbreak

Ers pryd mae "brigiad" wedi'i ddefnyddio yn y cyd-destun hwn felly?

Does dim sôn amdano yn GPC - "crib cefn anifail" neu "ymwthiad craig neu wythien i'r wyneb" sydd yn y fan honno.

 

On 6 Nov 2007, at 14:18, Alwyn Evans wrote:

 

Onid y gwahaniaeth yw bod 'achosion' yn cyfeirio at achosion unigol, neu grw^p o achosion, tra bod 'brigiad' yn cyfeirio at y digwyddiad cyfan

 

Felly fe fyddai 'sawl achos o draed a'r genau wedi ei ddarganfod' ond 'mae'r  llywodraeth yn delio gyda brigiad o draed a'r genau' ?

 

Dyfalu ydw i, ond mae'n gwneud sens. A diolch hefyd Tim am f'atgoffa am y gair 'brigiad'!

Alwyn

 

 


No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.5.503 / Virus Database: 269.15.23/1113 - Release Date: 06/11/2007 10:04


No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.5.503 / Virus Database: 269.15.23/1113 - Release Date: 06/11/2007 10:04