Print

Print


Sylwadau cyffredinol oedd gen i mewn gwirionedd, yn hytrach na sylwadau ar y 'ddogfen' dan sylw fel y cyfryw. Tipyn o burydd ydw innau a dweud y gwir - mewn dogfennau mwy ffurfiol, mi faswn i'n gwgu ar bethau fel 'pam fod' ac 'ers 1999'. Byddai'n rhaid barnu ar sail y cyd-destun cyfan. Ond sloganau ydy'r rhain onid e?
 
O ran cwestiwn Ann, mi fyddai 'gwneud' yr un mor hawdd ei ddarllen â 'g'neud' neu 'gneud', dim ond ei fod yn rhoi blas gwahanol i'r slogan, yn ei wneud, efallai, *efallai*, yn rhy 'barchus' i fod yn dderbyniol i blant!  Mae'n ddrwg gen i, ond mae pobl yn gorfod ystyried pethau fel yna wrth gyfieithu.
 
Dim ond ffyrdd o geisio cyfleu'r ffurf lafar ar bapur ydy 'g'neud' neu 'gneud' - rhywbeth yn debyg i'r hyn roedd Cymraeg Byw yn ei ceisio wneud yn y 60au. (O na, peidiwch â chychwyn ar y trywydd yna ...!)  Does dim byd yn 'wael' yngly^n â nhw. 
 
Ac i ateb cwestiwn gwreiddiol John - efallai, er mwyn yr athrawon, y baswn i'n ffafrio'r collnod mewn slogan, ond mi wn o brofiad wrth olygu bod collnodau mewn nofel yn bla! Gorau po leied o'r d...d!
 
Llawnenhewch - mae gennym o hyd iaith i ddadlau yn ei chylch!
G


Howard Huws <[log in to unmask]> wrote:
Ni wad neb bod rhaid dwyn y cywair mewn cof. Gellir ysgrifennu agos
unrhywbeth mewn nofel, neu lythyr at gyfaill, er enghraifft: ond yn achos
dogfen "gyhoeddus" a anelir at blant, gorau fyddai peidio a^ thanseilio
ymdrechion eu hathrawon i ddysgu iddynt Gymraeg cywir.