Print

Print


Mae'n debyg y dylwn dderbyn barn mwyafrif y siaradwyr iaith gyntaf.  Ond sut yn union mae'r "w" yn mynd i rwystro'r plant hyn rhag ddarllen y slogan?
Ann
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Rhian Huws
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Tuesday, November 27, 2007 3:24 PM
Subject: Re: gwneud / gneud / g'neud

Clywch! Clywch!
Mi fasa'n llawer gwell gen i weld pobl ifanc yn darllen rhywbeth sydd wedi ei ysgrifennu yn y cywair priodol yn Gymraeg na throi at y Saesneg. Os na wnawn ni, fel cyfieithwyr, addasu ein harddull i ystyried ein cynulleidfa darged, yna mae'n bosibl y collwn y gynulleidfa honno'n gyfan gwbl! Rhaid inni symud efo'r oes!
 
Rhian
Canolfan Iechyd Cymru


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of GLENYS ROBERTS
Sent: 27 November 2007 15:00
To: [log in to unmask]
Subject: Re: gwneud / gneud / g'neud

Er 'mod i wedi treulio rhai blynyddoedd ym maes dysgu Cymraeg yn ail iaith, dw i'n cytuno â Geraint gant y cant. Mater o gywair ydy o, wrth gwrs, ac mae'n rhaid inni warchod gallu'r iaith i weithredu mewn gwahanol gyweiriau, ar lafar ac ar bapur. 
 
Gyda llaw - ac yn lled amherthasol - os dw i'n cofio'n iawn, roedd yr hen Iolo Morganwg yn hoffi dilorni Gogleddwyr trwy eu galw'n 'ddeud-gneudwyr'!  Fel Gogleddwraig sy'n byw ym Morgannwg ers **** o flynyddoedd, hwyrach ei bod yn saff imi gyfeirio at hynny!
 
Hwyl
Glenys

Geraint Løvgreen <[log in to unmask]> wrote:
Nid mater o ddeall nag o "poshrwydd" ydio, ond mater o gywair a hyblygrwydd.
Does na'm pwynt cadw'r iaith mewn cwpwrdd gwydr (neu - "nid oes ddiben
cadw...) . A dwi'n anghytuno efo Steffan - i mi, cryfder arbennig gan yr
iaith Saesneg ydi'r hyblygrwydd yma, yn fwy na'r Gymraeg - mae na rywun o
hyd yn saff o gwyno os gwelith o ryw sillafiad anghonfensiynol o air
Cymraeg, ond meddyliwch am Kwiksave ac ati yn saesneg.

Ac ma gneud yn well na g'neud gen i achos dydi'r collnod yn ychwanegu dim.

----- Original Message -----
From: "Alun, Steffan" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, November 27, 2007 12:22 PM
Subject: Re: gwneud / gneud / g'neud


>> Os yw plant ddyddiau hyn yn methu deall "gwneud" neu'n ei
>> weld yn rhyw ffurfiol a "posh" waeth inni roi'r ffidl yn y
>> to ddim. A yw'r egwyddor heddiw i (a oes "i" i fod yma?)
>> beidio a dysgu i blant unrhyw beth nad ydynt yn gwybod
>> eisoes, na dangos dim ffordd well iddynt rhag ofn iddynt
>> deimlo'n israddol?
>
> Am y rheswm yma, byddai'n well gen i weld "g'neud", fy hun. Ond yn sicr,
> dydw i ddim yn teimlo bod angen cadw'n gaeth at ffurfiau llenyddol mewn
> posteri ac ati. Un o gryfderau'r Gymraeg, yn fy nhyb i, yw bod modd newid
> naws rhywbeth yn llwyr trwy benderfynu pa ffurfiau i'w defnyddio; gwahanol
> i'r Saesneg, lle does dim modd defnyddio ffurfiau llafar nad ydynt yn
> llenyddol heb wneud iddo edrych yn hynod o amhroffesiynol.
>
> (Ac i gyfeirio at bwynt John Puw, dydw i ddim yn meddwl mai ceisio osgoi
> bod
> yn "posh" oedd Caradog Prichard.)
>
> Steffan
>
>
> ******************************************************************
> This e-mail and any files transmitted with it are confidential and
> intended solely for the use of the individual or entity to whom they are
> addressed. If you have received this e-mail in error, please notify the
> administrator on the following address: [log in to unmask]
>
> Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn gyfrinachol
> ac at ddefnydd yr unigolyn neu'r corff y cyfeiriwyd hwy atynt yn unig. Os
> ydych wedi derbyn yr e-bost hwn drwy gamgymeriad, dylech hysbysu'r
> gweinyddydd yn y cyfeiriad canlynol: [log in to unmask]
> *******************************************************************


No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.5.503 / Virus Database: 269.16.8/1153 - Release Date: 26/11/2007 21:08