Print

Print


Diolch John a Bethan. Doeddwn i ddim yn cofio bod y drafodaeth wedi bod o'r blaen - mae gin ti go fel eliffant John! Mynd am ia/na wna i - mi fasa tic a chroes yn iawn yn y tabl ond yn edrych braidd yn od efo / rhyngddyn yn y dogfen! ac mae arna i isio cadw'r fformat run fath. Diolch eto.
 
Annes

 
2007/11/5, Bethan Garbutt <[log in to unmask]>:

Mi fydda i yn defnyddio symbol tic a chroes ar adegau fel hyn!

 

-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto: [log in to unmask]] On Behalf Of annes gruffydd
Sent: 05 November 2007 09:53
To: [log in to unmask]
Subject: yes/no

 

Bob amser yn dan ar y nghroen i mewn holiaduron. Mae na gwestiyna yng nghorff y ddogfen yma, a dwi wedi cyfieithu yes/no yn wahanol yn ol y cwestiwn wrth gwrs. OND gwae fi, yn un o'r atodiada mae'r cwestiyna i gyd mewn tabl ac dwy golofn ar gyfer yes a no. Be na i??!! Does na ddim un atab fyddai'n gneud iddyn nhw i gyd a digon o waith y medrwn aralleirio'r cwestiyna i gyd i gydymffurfio. Mae yna lawer ohonyn nhw'n dechra efo Ydych chi'n cytuno, ond mae na ambell un na fedra i dim ei droi i ffitio i'r fformat yna. Mae'r cythral yna i isio rhoi oce mewn un golofn a dim ffiars o beryg yn y llall. Unrhyw gymorth plis. Diolch

 

Annes


_______________________________________________________


Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn gyfrinachol, ac fe'u bwriedir ar gyfer defnydd yr unigolyn neu'r hanfod y'u cyfeirir hwy atynt yn unig. Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn ar gam a wnewch chi roi gwybod i'r sawl a'i hanfonodd os gwelwch yn dda. Nodwch mai barn yr awdur yn unig yw unrhyw un a gyflwynir yn yr e-bost hwn, ac nid ydyw o anghenraid yn cynrychioli barn Gyrfa Cymru. Yn olaf, dylai'r derbynnydd wirio'r e-bost hwn ac unrhyw atodion rhag presenoldeb firysau. Nid yw'r cwmni'n derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw ddifrod a achosir gan unrhyw firws a drosglwyddir gan yr e-bost hwn. www.gyrfacymru.com


This email and any files transmitted with it are confidential and intended solely for the use of the individual or entity to whom they are addressed. If you have received this email in error please notify the sender. Please note that any views or opinions presented in this email are solely those of the author and do not necessarily represent those of Careers Wales. Finally, the recipient should check this email and any attachments for the presence of viruses. The company accepts no liability for any damage caused by any virus transmitted by this email. www.careerswales.com