Print

Print


Diolch Awyn! Pan ddaeth y gair i mhen i bora ma mi gyd-darodd a'r tro cynta i ni weld yr haul ers tua phum niwrnod felly ron i'n teimlo bod hynna'n rhyw fath o argoel hefyd - ma rhaid i ni gyfieithwyr gredu yn rhwbath decini! Mwya dwi'n ei ddefnyddio fo mwya dwi'n fodlon arno fo achos dwi'n medru gweld yr afiechyd ayyb yn cael ei ffrwyno. At hynny, dwi'n hoff iawn o ddefnyddio ymadroddion ne eiria diriaethol, o'r pridd. Swpar amdani felly, yn teimlo'n fwy bodlon fy myd. (O'r gwynt y daeth 'oedfan' am 'venue' ata i a ddaru Bruce ei alw'n athrylithgar felly ella bod na obaith i'r hen hogan eto!) Swpar o ddim - ychydig o'r gwridog win - be ti'n feddwl 'ychydig'...

2007/11/3, Alwyn Evans <[log in to unmask]>:
Reit dda Annes - mae ffrwyno'n cyfleu'r syniad yn iawn i mi. Dydw'i ddim yn or-hoff beth bynnag o'r tueddiad yn y Saesneg i bentyrru berfau, ac os oes rhywfaint o drawsbellio rhyngddynt ( neu hyd yn oed groes-beillio!) allwn ni ddim fel cyfieithwyr gael ein beio - allwn ni ddim ond cyfleu ystyr yr hyn sy' gennym o'n blaenau, ac os ydi hynny'n ailadroddus ac anelwig, fe fydd y cyfieithiad hefyd!
 
Alwyn