Print

Print


On 18/10/2007, Dafydd Tomos <[log in to unmask]> wrote:
> On Thu, Oct 18, 2007 at 12:38:17PM +0100, Catrin Alun wrote:
> > Son am dylluanod - oes rhywun yn gwybod be ydy'r dylluan na sy'n llithro i
> > lawr y sgrin ar raglenni S4C?
>
> Mae'n dangos fod is-deitlau ar gael. Ddim y peth mwya' amlwg nagyw?
> Ond mae'n debyg fod y rhai sydd am ddefnyddio is-deitlau yn
> gwybod i edrych amdano.

Wedi bod yn chwilio am y fideo hwn ers i'r neges hon ymddangos, a
newydd ddarganfod y ddolen wrth chwilio am rhywbeth hollol wahanol:
http://idents.org/videos/bilinguals4c.html
(bydd angen Flash, a chysylltiad rhyngrwyd gweddol gyflym arnoch chi).

Dwi heb weld llawer o'r fideo hwnnw ar y sgrin (ar ol i ddiwyg S4C
newid, fis Ionawr eleni, fe'i ddangoswyd rhyw ychydig), sy'n drueni -
mae'n weledol wych.

Rhys