Son rydw i am deitla, ee and The Cherry Orchard. Dwi bob amsar wedi cael fy siarsio i ymorol bod unrhyw fannod yn gywir mewn teitl. Sy'n gadael y broblam - a Y Berllan Geirios, ac Y Berllan Geirios neu a'r Berllan Geirios. Maen nhw i gyd yng anghywir a'r ddau gynta'n hyll - tybed ai'r trydydd ydi'r lleia o'r tri drwg? Fuo Bruce a fi'n son am hyn mewn cynhadledd cyfeitihwyr yng Ngregynog rai blynyddoedd yn ol a doedd gan y Gamaliel hwnnw ddim ateb boddhaol i'w gynnig (gyda llaw, tydi newid trefn y rhestr ddim bob amsar yn ateb y broblem - weithia maen nhw i gyd yn dechra efo Y). Oes gan rywun gynnig?
Annes