Ond holl bwynt slogan ydi ei fod mewn iaith lafar, iaith y stryd ! Nid "cywirdeb" ieithyddol ydi'r peth pwysig yn yr achos yma! Ac os nad ydi'r slogan Saesneg yn fachog pam na all y slogan Cymraeg anelu at fod yn fwy bachog? ----- Original Message ----- From: "Rhisiart Hincks" <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Tuesday, November 27, 2007 9:38 PM Subject: Re: gwneud / gneud / g'neud > Cytunaf i ag Anne... Mae'r ffasiwn i ysgrifennu unrhyw beth sydd ar lafar > ac sy'n rhan o iaith y stryd, yn hytrach na'r hyn sy'n safonol, yn > draddodiadol ac yn genedlaethol, yn drist o ddinistriol. Mae swyddogaeth i > ddeud, gweud, neud, gneud mewn stori lle y mae rhywun am ddangos beth yw > iaith y cymeriadau, ond... > > Nid yw'r Saesneg yn fachog ond rhaid cael Cymraeg israddol, beth > bynnag.... > > Rhisiart > > > > ----- Original Message ----- > From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]> > To: <[log in to unmask]> > Sent: Tuesday, November 27, 2007 12:13 PM > Subject: Re: gwneud / gneud / g'neud > > > Mae'r neges hon heb fynd trwodd, ac nid wyf wedi gweld ymholiad diweddaraf > Annes (neu'r ymholiad a anfonodd Annes yn ddiweddar??) ac eithrio ar y > wefan. Triaf eto o'rffurflen ar y wefan: > > Os yw plant ddyddiau hyn yn methu deall "gwneud" neu'n ei weld yn rhyw > ffurfiol a "posh" waeth inni roi'r ffidl yn y to ddim. A yw'r egwyddor > heddiw i (a oes "i" i fod yma?) beidio a dysgu i blant unrhyw beth nad > ydynt yn gwybod eisoes, na dangos dim ffordd well iddynt rhag ofn iddynt > deimlo'n israddol? > > Ann