Print

Print


Cynhadledd y Camlwyddiant Amgueddfa Cymru-National Museum Wales Centenary Conference

Cynhadledd y Canmlwyddiant: Amgueddfeydd Cenedlaethol a Chenhedloedd Bychain
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, 6-7 Rhagfyr 2007

Mae Amgueddfa Cymru wedi bod yn dathlu ei chanmlwyddiant eleni; 100 mlynedd o gasglu a rhannu trysorau amgylchedd a diwylliant Cymru. Ond er ein bod yn ymfalchïo yn yr hyn a gyflawnwyd ers sefydlu’r Amgueddfa ym 1907, mae hi'r un mor bwysig edrych tua’r dyfodol. Gan anelu at y nod o greu amgueddfa ddysg o safon ryngwladol, mae datblygiadau eisoes ar y gweill i yrru’r agenda hwn yn ei flaen.

Y gynhadledd hon yw un o uchafbwyntiau niferus ein canmlwyddiant. Gobeithio y gallwch chi ymuno â ni am gyfle gwerthfawr i rannu syniadau a phrofiadau.

Michael Houlihan
Cyfarwyddwr Cyffredinol

Am beth fydd y gynhadledd?

Mae’r gynhadledd ryngwladol hon – a gynhelir i ddathlu can mlynedd cyntaf cyffrous yn hanes yr Amgueddfa – yn edrych ar gyfraniad amgueddfeydd wrth greu a chynnal hunaniaethau cenedlaethol, a’r rhan fu ganddynt wrth ddatblygu ymwybyddiaeth a dinasyddiaeth genedlaethol, yn arbennig mewn cenhedloedd bychain fel Cymru. Byddwn yn trafod enghreifftiau o wledydd sy’n dechrau dod i’r amlwg hefyd, yn ogystal â’r rhan fu gan amgueddfeydd cenedlaethol wrth helpu lleiafrifoedd diwylliannol, gwleidyddol, crefyddol, ethnig neu unrhyw leiafrifoedd eraill, i gryfhau eu statws yn y byd – neu eu diffyg yn hynny o beth.

Ar gyfer pwy mae’r gynhadledd?

Pobl sy’n gweithio mewn amgueddfeydd ac yn y sector diwylliant, myfyrwyr ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn cyflwyno cenhedloedd a chymunedau ar lwyfan ryngwladol.

Y rhaglen, bwcio a manylion pellach

Ewch i’r tudalennau pwrpasol ar ein gwefan i gael rhagor o wybodaeth:

www.amgueddfacymru.ac.uk/cy/centenary_conference


Centenary Conference: National Museums & Small Nations
National Museum Cardiff, 6-7 December 2007

Amgueddfa Cymru – National Museum Wales has been celebrating its centenary this year; 100 years dedicated to collecting and sharing the treasures of Wales’s environment and culture. However, just as we take pride in what we have achieved since the Museum was created in 1907, it is equally important to use to look to the future. Our aim is to create a world-class museum of learning, and developments are already underway to drive this agenda.

This conference is one of our centenary’s many highlights. We hope you will be able to join us for what should be an invaluable opportunity to share ideas and experiences.

Michael Houlihan,
Director General

What’s the conference about?

This international conference - marking the end of an exciting centenary for the Museum - examines the contribution of museums to creating and maintaining national identities, and the role that they have played in the development of national consciousness and citizenship, particularly in small nations such as Wales.  Case examples from emerging countries will also be discussed, as well as the role that national museums have played – or not – in helping cultural, political, religious, ethnic or other minorities reinforce their place in the world. 

Who is it for?

Museum and cultural-sector professionals and students and all those with an interest in how nations and communities can be presented on the world stage.

Programme, booking and further details

Please visit our dedicated pages on our website for further information: www.http://www.museumwales.ac.uk/en/centenary_conference/


---
Elizabeth Bennett

Swyddog Cyngor a Chefnogaeth - Advice and Support Officer

CyMAL: Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Cymru - CyMAL: Museums, Archives and Libraries Wales
Llywodraeth Cynulliad Cymru - Welsh Assembly Government

Uned 10, Parc Gwyddoniaeth, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3AH.
Unit 10, Science Park, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3AH.
Ffon/Tel: 01970 610235
Ffacs/Fax: 01970 610223
Rhif GTN/GTN No: 7 2846 0235
e-bost/e-mail: [log in to unmask]



The original of this email was scanned for viruses by the Government Secure Intranet virus scanning service supplied by Cable&Wireless in partnership with MessageLabs. (CCTM Certificate Number 2006/04/0007.) On leaving the GSi this email was certified virus free.
Communications via the GSi may be automatically logged, monitored and/or recorded for legal purposes.

Cafodd fersiwn gwreiddiol y neges e-bost hon ei sganio gan wasanaeth gwrthfeirysau Mewnrwyd Ddiogel y Llywodraeth (GSI) a ddarparwyd gan Cable&Wireless mewn partneriaeth â MessageLabs. (Rhif Tystysgrif CCTM 2006/04/0007). Wrth adael y GSI nid oedd unrhyw feirws yn gysylltiedig â’r neges hon.
Mae’n ddigon posibl y bydd unrhyw ohebiaeth drwy’r GSI yn cael ei logio, ei monitro a/neu ei chofnodi yn awtomatig am resymau cyfreithiol.