Cawsom neges heddiw gan ymgeisydd ar gyfer
Aelodaeth Gyflawn Saesneg i Gymraeg y Gymdeithas trwy Asesiad. Dywedodd
"Dw i ddim am godi y cwestiynau hyn ar 'WTC'
gan nad wyf am ddatgelu pwy sydd wedi cyfieithu'r darn."
Er fy mod i'n arholi asesiadau yn y cyfeiriad
arall, nid yw Bruce yn aelod o'r Bwrdd Arholi mwyach. Wedi ymgymhori a'r
prif arholwr, yr ymgeisydd ac eraill, cytunwyd bod ymddygiad yr ymgeisydd
yn hollol gyfrifol a phroffesiynol, a bod ceisio cyngor fel hyn yr union beth y
byddem yn annog cyfieithwyr ei wneud mewn bywyd go iawn. Cytunwyd y dylwn
anfon yr ymholiad di-enw, ynghyd ag ymateb Bruce, at W-T-C. dyma
nhw:
"... mae un o'r darnau'n trafod geneteg ac mae gennyf i gwpl o broblemau
bach o ran geirfa.
"Yr un cyntaf yw a yw 'haplogrw^p' yn dderbyniol ar
gyfer 'haplogroup'? Dw i wedi edrych mewn llyfr o eiddo CBAC sy'n trafod geneteg
a does
dim son am 'haplogroups' ynddo felly mae'n bosibl mai fi yw'r person
cyntaf i ysgrifennu amdanynt yn y Gymraeg.
"Yr ail un yw, a fyddai
'trawsfersiwn' yn dderbyniol ar gyfer 'transversion?'
"Dyma ddiffiniad o
beth yw 'transversion'
"Transversion: replacement of a purine with a
pyrimidine or vice versa."
"Dw i wedi penderfynu defnyddio 'fersiwn' gan
obeithio y bydd yr un mor ddealladwy a chan eu bod yn troi'n 'fersiynau' o'i
gilydd.
"Holais [un] sydd a^ doethuriaeth mewn geneteg, ond doedd e ddim
wir yn deall y term gan ei fod mor arbenigol nid oedd erioed wedi dod ar ei
draws!"
Dyma ymateb Bruce:
haplogrw^p" yn iawn am a wn i.
>a fyddai 'trawsfersiwn' yn dderbyniol ar gyfer 'transversion'
(Rhoddwyd yr ymadrodd inni'n nes ymlaen, sef "The novel transversion
mutation Rhif x")
Ymateb Bruce - Efallai'n wir; ond oni wna "trawsnewidiad" y tro'n
iawn? Os yw "trawsnewidiad" yn rhyw benagored, byddai "trawsfersiwn" yn
iawn am a wn i.
Os oes gan eraill farn arall, mae angen yr ymateb
HEDDIW. A diolch byth am hynny, neu gallaf weld Bruce yn derbyn
rhagor o ymholiadau!
Diolch yn fawr iawn,
Ann