Cawsom neges heddiw gan ymgeisydd ar gyfer Aelodaeth Gyflawn Saesneg i Gymraeg y Gymdeithas trwy Asesiad. Dywedodd "Dw i ddim am godi y cwestiynau hyn ar 'WTC' gan nad wyf am ddatgelu pwy sydd wedi cyfieithu'r darn." Er fy mod i'n arholi asesiadau yn y cyfeiriad arall, nid yw Bruce yn aelod o'r Bwrdd Arholi mwyach. Wedi ymgymhori a'r prif arholwr, yr ymgeisydd ac eraill, cytunwyd bod ymddygiad yr ymgeisydd yn hollol gyfrifol a phroffesiynol, a bod ceisio cyngor fel hyn yr union beth y byddem yn annog cyfieithwyr ei wneud mewn bywyd go iawn. Cytunwyd y dylwn anfon yr ymholiad di-enw, ynghyd ag ymateb Bruce, at W-T-C. dyma nhw: "... mae un o'r darnau'n trafod geneteg ac mae gennyf i gwpl o broblemau bach o ran geirfa. "Yr un cyntaf yw a yw 'haplogrw^p' yn dderbyniol ar gyfer 'haplogroup'? Dw i wedi edrych mewn llyfr o eiddo CBAC sy'n trafod geneteg a does dim son am 'haplogroups' ynddo felly mae'n bosibl mai fi yw'r person cyntaf i ysgrifennu amdanynt yn y Gymraeg. "Yr ail un yw, a fyddai 'trawsfersiwn' yn dderbyniol ar gyfer 'transversion?' "Dyma ddiffiniad o beth yw 'transversion' "Transversion: replacement of a purine with a pyrimidine or vice versa." "Dw i wedi penderfynu defnyddio 'fersiwn' gan obeithio y bydd yr un mor ddealladwy a chan eu bod yn troi'n 'fersiynau' o'i gilydd. "Holais [un] sydd a^ doethuriaeth mewn geneteg, ond doedd e ddim wir yn deall y term gan ei fod mor arbenigol nid oedd erioed wedi dod ar ei draws!" Dyma ymateb Bruce: haplogrw^p" yn iawn am a wn i. >a fyddai 'trawsfersiwn' yn dderbyniol ar gyfer 'transversion' (Rhoddwyd yr ymadrodd inni'n nes ymlaen, sef "The novel transversion mutation Rhif x") Ymateb Bruce - Efallai'n wir; ond oni wna "trawsnewidiad" y tro'n iawn? Os yw "trawsnewidiad" yn rhyw benagored, byddai "trawsfersiwn" yn iawn am a wn i. Os oes gan eraill farn arall, mae angen yr ymateb HEDDIW. A diolch byth am hynny, neu gallaf weld Bruce yn derbyn rhagor o ymholiadau! Diolch yn fawr iawn, Ann