Print

Print


Newydd dderbyn llwyth o negeseuon gyda'i gilydd!

Ie chi sy'n iawn Huw - mae'r Acting Inspector yn gwneud gwaith Arolygydd am gyfnod.  Arolygydd Dros Dro fydde fe felly ac fe fyddai'n ysgwyddo dyletswyddau uwch yn ystod y cyfnod hwnnw.

Bet

Bet Eldred
Cyfieithydd - Translator
Heddlu Dyfed-Powys Police
0845 330 2000 Est - Ext 6558
 

 

-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Huw Garan
Anfonwyd/Sent: 04 Hydref 2007 13:02
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: ATB: acting up

Dw i ddim yn siwr a yw 'ymarferion' yn hollol gywir chwaith.  Mae cefnder i
mi'n blismon yng Nghaerdydd ac roedd e'n sôn yn ddiweddar fod angen iddo
ddechrau 'acting up' cyn bo hir er mwyn cael dyrchafiad.  Fel deallais i'r
term, bod yn rhyw fath o 'sarsiant gweithredol' yw'r ystyr, sef gwnued
gwaith sarsiant ond heb gael y streips ar ei fraich - sydd ychydig bach yn
wahanol i 'ymarfer' bod yn sarsiant.  Efallai gall John neu Bet fy nghywiro
os ydw i wedi camddeall, ond rwy'n cerdu taw awgrym Sylvia, sef 'ysgywddo
dyletswyddau uwch' sy'n cyfleu'r ystyr orau.

Hg

-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Geraint
Løvgreen
Anfonwyd/Sent: 04 October 2007 12:38
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: acting up

Ond dwi ddim yn meddwl eu bod nhw'n ysgwyddo cyfrifoldebau ychwanegol go
iawn, nachdyn? *Ymarferion* yn delio â senarios gwirioneddol neu ddychmygol
sydd yma.

Yn y cyd-destun hwnnw faswn i'n meddwl y bysa "ymarferion dyletswyddau uwch"

neu rywbeth felly yn cyfleu'r peth.

Geraint

----- Original Message -----
From: "Jones,Sylvia Prys" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, October 04, 2007 11:59 AM
Subject: Re: acting up


Sian Roberts wrote:
> Unrhyw syniad am "acting up"? Dyma'r cyd-destun:
>
> ... senior managers who are being "groomed" for chief executive positions 
> in the health service. As part of the programme, they undertake exercises 
> to deal with real or imaginary scenarios which they would have to deal 
> with at that level.
>
> Dyma enghraifft: "You will benefit from having had access to development 
> roles and 'acting up' projects."
>
>
> Fyddai rhywbeth fel "gweithredu'n uwch" yn cyfleu'r ystyr?
Daethom ar draws yr ymadrodd hwn yn ddiweddar ac os dw i'n cofio'n iawn
defnyddiwyd rhywbeth fel 'ysgwyddo cyfrifoldebau ychwanegol'. Ond o
edrych ar dy gynnig di efallai byddai 'ysgwyddo cyfrifoldebau uwch' yn well?


No virus found in this outgoing message.
Checked by AVG Free Edition. 
Version: 7.5.488 / Virus Database: 269.14.0/1048 - Release Date: 03/10/2007
20:22
 
E-MAIL CONFIDENTIALITY STATEMENT

This e-mail and any files transmitted with it are not necessarily the view of Dyfed-Powys Police. It is intended only for the person or entity named above. 
If you have received this e-mail in error please notify the originator and erase this e-mail from your system. If you are not the intended recipient or the 
employer or agent responsible for delivering it to the intended recipient, you are hereby notified that any use, review, dissemination, distribution or 
copying of the e-mail is strictly prohibited. This e-mail and any files transmitted within it have been checked for all known viruses. The recipient
should still check the e-mail and any attachments for the presence of viruses, as Dyfed-Powys Police accepts no liability for any damage caused by any virus 
transmitted by this e-mail.

DATGANIAD CYFRINACHEDD E BOST

Nid yw'r e-bost hwn nag unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef o angenrheidrwydd yn adlewyrchu barn Heddlu Dyfed-Powys. Bwriedir yr e-bost
ar gyfer y person neu'r sefydliad a enwir uchod. Os derbyniwyd yr e-bost hwn trwy gamgymeriad, dylid hysbysu'r anfonydd a dileu'r e-bost oddi ar eich 
system os gwelwch yn dda. Os na'i fwriadwyd ar eich cyfer chi ac nid chi yw'r cyflogwr na'r asiant sy'n gyfrifol am roi'r e-bost i'r derbynnydd bwriadedig,
fe'ch hysbysir gan hyn na chaniateir i chi ddefnyddio, adolygu, lledaenu, dosbarthu na chopio'r e-bost ar unrhyw gyfrif.  Archwiliwyd yr e-bost hwn
ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef am firws.  Serch hynny, dylai'r derbynnydd hefyd archwilio'r e-bost a'r ffeiliau sydd ynghlwm am firws
oherwydd nid yw Heddlu Dyfed Powys yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw ddifrod a achosir gan unrhyw firws a drosglwyddir trwy gyfrwng yr e-bost hwn.