Print

Print


Diolch Berwyn a Meg.  Deallaf erbyn hyn nad oes cymaint o frys ag oeddwn i'n ofni, felly dilynaf y trywddau hyn.  Rhoddaf wybod am y canlyniad.
 
Ann
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">MEG ELIS
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Thursday, October 04, 2007 9:04 AM
Subject: Re: Cwm Pennant

Rhag i neb fynd i chwilota, tydi o ddim yn Poetry of Wales Gerallt Jones - wn i ddim a ydi o yn y Times Book of Wales.
 
Meg

Berwyn Jones <[log in to unmask]> wrote:
Dwy ffynhonnell arall o gyfieithiadau o farddoniaeth Gymraeg i'r Saesneg fyddai'r Times Book of Wales (cyfieithiadau gan Myrddin a Tecwyn Lloyd), a gyhoeddwyd yn ystod y pumdegau, os cofiaf yn iawn, a'r gyfrol o gyfieithiadau gan R Gerallt Jones a gyhoeddwyd ryw ugain mlynedd yn ôl ac a gafodd ei beirniadu'n eitha hallt yn yr adolygiad a welais ar y pryd ...
 
Efallai y byddai'n werth holi Alan Llwyd.
 
Berwyn
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Ann Corkett
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Wednesday, October 03, 2007 8:14 PM
Subject: Cwm Pennant

Dyma neges oddi wrth gyn-ddisgybl: 
You may have read in the papers or seen on the news that we are currently hosting 270 intermational travel buyers and journalists in Llandudno. I've been squiring around a lovely gentleman from India and yesterday as we drove by Cwm Pennant I told him about the famous poem. He expressed an interest in having an English language version as he thought it would be a wonderful thing to mention in the 4 stories he will write on Wales. I've looked all day on the web and tonight in my welsh book collection and I can't find a copy. Would you have one you'd be willing to share?
 
Byddwn i'n falch iawn o unrhyw gymorth - mae digon o gyfieithiadau ar y We o'r ddwy linell enwocaf, ond dim awgrym bod neb wedi cyfieithu'r cyfan.  'Dyn ni wedi trio "Penguin Book of Welsh Verse" Tony Conran, "Poems from the Welsh", Idris Bell a "Welsh Poetry Old and New" A P Graves.  Daliwn i chwilio ond heb fawr o obaith.
 
Ann

No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.5.488 / Virus Database: 269.14.0/1048 - Release Date: 03/10/2007 20:22


No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.5.488 / Virus Database: 269.14.0/1048 - Release Date: 03/10/2007 20:22