Print

Print


Dweud dim am fanylrwydd, ceinder, na dim byd arall y term, nac yn honni y byddwn i wedi'i ddewis fy hun - ond corff rheoleiddio yw'r Swyddfa Gyfathrebu.

Ar y llaw arall, tybed a oes rhyw term mwy addas a/neu hylaw wedi cydio, ymhlith ymarferwyr neu ar lafar gwlad, fel petai? Me ddes i hyd i nifer o amrywiadau, a gwn y byddai rhagor wedi dod i'r fei pe bai amser i ddilyn y trywydd. Fedr rhywun taflu goleuni, os gwn i?


Tim

Tim Saunders 
Cyfieithydd / Translator 
Uned Cyfieithu Cyngor Rhondda Cynon Taf / Rhondda Cynon Taf Council Translation Unit 
Ty Trevithick 
Abercynon 
Rhondda Cynon Taf CF45 4UQ 
Ffôn +44-(0)-1443-744000 


Nid yw'r e-bost hwn nag unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef o angenrheidrwydd yn adlewyrchu barn Cyngor Rhondda Cynon Taf.
Mae'r wybodaeth sydd yn y ddogfen hon yn gyfrinachol. Fe all fod yn gyfreithiol freintiedig.
Bwriedir yr e-bost ar gyfer y person neu'r sefydliad a enwir uchod. Os derbyniwyd yr e-bost hwn trwy gamgymeriad,
dylid hysbysu'r anfonydd a dileu'r e-bost oddi ar eich system os gwelwch yn dda.
Os mai nid i chi y bwriadwyd ef ac nid chi yw'r cyflogwr na'r asiant sy'n gyfrifol am roi'r e-bost i'r derbynnydd bwriadedig,
fe'ch hysbysir gan hyn na chaniateir i chi ddefnyddio, adolygu, lledaenu, dosbarthu na chopio'r e-bost ar unrhyw gyfrif.
Fe all fod gwneud hynny yn anghyfreithlon.


This e-mail and any files transmitted with it are not necessarily the view of Rhondda Cynon Taf Council.
The information contained in this communication is confidential. It may be legally privileged.
It is intended only for the person or entity named above.
If you have received this e-mail in error please notify originator and erase this e-mail from your system.
If you are not the intended recipient or the employer or agent responsible for delivering it to the
intended recipient, you are hereby notified that any use, review, dissemination, distribution or copying
of the e-mail is strictly prohibited. To do so may be unlawful. 



-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Dafydd Tomos
Sent: 15 October 2007 16:29
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Wireless Hotspot


> Gall defnyddwyr hefyd gael mynediad at y rhyngrwyd os oes gan y
> pwynt mynediad gysylltedd priodol. Mae gan bwyntiau mynediad WiFi (a
> adwaenir hefyd fel llecynnau chwilboeth) ystod o ryw 100 metr yn
> nodweddiadol.

Lle ti'n meddwl mae Ofcom wedi gael y term rhyfedd ac unigryw hwn?
Ar ol chwilio ar y we fel pawb arall!

Hyd yn oed os yw rhywun am drosi 'hotspot' yn llythrennol, dyw
'chwilboeth' ddim yn gyfeithiad da beth bynnag. Yn y cyd-destun mae
'hot spot' yn deillio o'r un syniad a 'hot desk' a 'hot plug',
technoleg lle mae'n bosib cysylltu/dadgysylltu yn rhwydd heb amharu
ar y cyfrifiadur neu'r system dan sylw.

Mae'n debyg fod 'poethfan' yn cael ei ddefnyddio fel cyfieithiad
llythrennol gan rai, ond dyw hwnna ddim yn esbonio'r ystyr yn glir
iawn chwaith.