Bachan o
Heolgerrig sydd yma, Siân, a dim ond fel un gair y mae’r enw yn gyfarwydd
i fi.
Un heol oedd y
pentref yn wreiddiol, a 1 Heolgerrig, 2 Heolgerrig, 3 Heolgerrig etc oedd y
cyfeiriadau am wn i, ac rwy newydd weld mai 100 Heolgerrig yw’r rhif ucha
heddiw yn ôl pobl y post.
Mae strydoedd ac
ystadau cyfan wedi’i hychwanegu at yr heol wreiddol, ond eto i gyd fyddwn
i ddim yn meddwl bod unrhyw les yn dod o geisio gwahaniaethu rhwng heol o’r
enw Heol Gerrig a phentref o’r enw Heolgerrig.
A dweud y gwir, Penyrheolgerrig
oedd enw gwreiddiol y pentref, a
Penriwl oedd enw ac ynganiad cenhedlaeth mam-gu ar y lle, ond anaml iawn y
clywch chi sôn am Benriwl erbyn hyn.
Gyda llaw, ar ôl
oes o gredu mai dim ond un Heolgerrig oedd, fe ges i dipyn o sioc yn ddiweddar
i weld bod yna Heolgerrig arall, yn Abertyleri, a heol yn unig yw honno, nid pentref.
Oddi wrth/From:
Anfonwyd/Sent: 10 October 2007
08:58
At/To:
[log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: Glynebwy, Glyn
Ebwy
Dw i newydd ddod ar draws rhywbeth tebyg. Darn yn sôn am bentref
Heolgerrig ger Merthyr Tudful ac yna'n dweud "there will be temporary
traffic lights on Heol Gerrig" - dw i'n cymryd mai dyna'r ffordd y
maen nhw'n gwahaniaethu rhwng enw'r pentref ac enw'r heol. Dw i wedi holi'r
cwsmer.
Siân
On 9 Oct 2007, at 18:26, Geraint Løvgreen wrote:
Ydw i'n
iawn i feddwl mai Glynebwy ydi enw'r dref, a Glyn Ebwy ydi enw'r cwm? Dim ond
gofyn, achos dwi'n gweld sawl enghraifft o gyfeirio at y dref fel "Glyn
Ebwy", a dio ddim yn edrych yn iawn i mi.
Geraint
Glynebwy sydd yn y Rhestr Enwau Lleoedd a GyA - wela i ddim
cyfiawnhad dros Glyn Ebwy yn unlle.