Sticiwch chi at Ceinewydd. Mae’r egwyddor yr un fath ag yn Tynewydd, Brynhyfryd, etc. Nid gwahaniaethu rhwng cei newydd a hen gei sydd yma. Mae’r un peth yn debyg yng Nghastellnewydd hefyd. Mae Castell Newydd Emlyn yn awgrymu bod yn Emlyn gastell newydd ac un hen (a does dim lle yna i ddau, fel rwyt ti’n gwybod, Mel!) Yr ystyr yw fod Castellnewydd yn Emlyn.

Rwy’n meddwl ei bod hi’n fuddiol eto atgoffa rhai cyfieithwyr iau (!) o gefndir arwyddion ffyrdd dwyieithog. Byddai panel penodol yn awgrymu’r sillafiad Cymraeg cywir (yn ôl orgraff Gymraeg yr 20fed ganrif) i awdurdodau lleol eu defnyddio ar eu harwyddion. Ond yr awdurdodau eu hunain fyddai’n gwneud y penderfyniad terfynol, a dyna pam mae pethau fel Llanybydder/Llanybyther wedi parhau, a Llangynnwr/Llangunnor. Yr unig ateb i’r cyfieithydd truan, hyd y gwela i, yw ateb ei feirniaid yn gwrtais iawn a gofyn ydyn nhw hefyd yn dal i ysgrifennu Llanybyther, Crymmych, Llandyssul, Caernarvon, Llanelly, gan fod yr orgraff wedi cael ei thwtio a’i chysoni ar gyfer enwau lleoedd?

O ran Llan-non, mae’r Gazetteer eto’n dweud ‘Llan-non’, oherwydd dydy ‘Llanon’ ddim yn cyfleu o gwbwl mai Llan y santes Non sydd yma. Mwy na hynny, ar y sillaf gyntaf mae’r acen yn y Gymraeg, ynte, felly dylai Llanon yn cael ei ynganu rywbeth yn debyg i ‘safon’. O ran diddordeb, bu trafodaeth ddigon chwyrn yn y papur bro yma tua blwyddyn yn ol, pan fynnodd golygydd y mis ddefnyddio ‘Llan-non’. Chlywsoch chi ariôd y fath stŵr! Ond rhoddwyd taw ar y cyfan yn y rhifyn nesa pan ofynnodd y golygodd beth oedd rheswm yr achwynwyr am wrthod penderfyniad y Gazetter? Oedden nhw’n fwy gwybodus na Bwrdd y Gwybodau Celtaidd? Afraid dweud nad oedd y rhan fwya wedi gweld y Gazetteer na chlywed am Fwrdd y Gwybodau Celtaidd eioed!

Falle na allwn ni gyfieithwyr wneud dim i atal y cyfieithiadau mecanyddol gwirion sy’n britho’r wlad y dyddiau hyn, ond falle y gallwn ni ddylanwadu ar gysoni sillafiad enwau lleoedd.

Mary

 


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Heledd Mitchell
Sent: 03 September 2007 14:33
To: [log in to unmask]
Subject: Cei Newydd/Ceinewydd?

 

Annwyl Gyfeillion,

Byddwn yn ddiolchgar iawn am eich sylwadau ynglŷn â’r uchod. Gwn fod Gyrra a’r Gazetteer yn defnyddio un gair. Fodd bynnag, mae aelodau Cyngor y Dref a nifer o bobl leol yn daer y dylid defnyddio dau air. Yn wir, rydym wedi cael cerydd cyn heddiw am ysgrifennu ‘Ceinewydd’. Mae’n bwnc dadleuol. Beth, felly, sy’n gywir?

O ran yr arwydd, rwyf ar ddeall y caiff ‘Cei Newydd’ ei ddefnyddio.

Diolch am unrhyw oleuni!

Heledd


--
This message has been scanned for viruses and
dangerous content by SpamAlizer, and is
believed to be clean.