Annwyl aelodau'r cylch,
Mae Lowri Williams, Bwrdd yr Iaith wedi gofyn i mi basio'r neges hon ymlaen at y cylch. Cyfle da i ni gael gwybod y diweddaraf o'r byd termau yng Nghymru, ac i gyfarfod â'n gilydd wynbeb yn wyneb am unwaith!
Fel y mae'r neges yn dweud, mae croeso i chi basio'r gwahoddiad ymlaen at bobl eraill hefyd, gorau i gyd mwya i gyd o bobl sy'n gwybod am yr achlysur.
Yn y gobaith o'ch gweld chi yno,
Delyth

Annwyl Gyfaill

 

Hoffwn eich gwahodd i seminar i drafod y maes termau Cymraeg a gynhelir am 11am, ar 30 Hydref 2007 yn y Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth. Bydd y seminar hwn yn un hanner diwrnod dros ginio.

 

Cyfle i dynnu ynghyd arbenigwyr sy’n gweithio yn y maes, cyfieithwyr a phobl sydd angen termau safonol ar gyfer hwyluso defnyddio’r Gymraeg yn eu priod feysydd yw’r seminar hwn. Wrth sefydlu ei hun yn gorff cenedlaethol i gydlynu safoni termau ac enwau lleoedd, mae’r Bwrdd yn awyddus i roi llwyfan i'r gweithgarwch sy'n digwydd yn y maes allweddol hwn, ac i godi ymwybyddiaeth ynghylch y gwahanol brosiectau a gynhelir mewn meysydd go amrywiol ar hyd a lled y wlad.

 

Bydd modd clywed am rai o’r prosiectau a’r datblygiadau diweddaraf yn y byd safoni termau yng Nghymru. Ceir cyflwyniadau gan gyfieithwyr Gwasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cynulliad Cymru, Canolfan Bedwyr ac aelodau o staff y Bwrdd ymhlith nifer o gyrff ac unigolion eraill. Bydd y seminar hefyd yn gyfle i drafod rhai o’r ystyriaethau hynny sy’n codi wrth drin a safoni termau, ac wrth ddefnyddio termau newydd yn fwy ymarferol wrth gyfieithu a gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd cyfle hefyd i drafod gosod blaenoriaethau ar gyfer gwaith safoni termau’r dyfodol mewn maes sydd yn gwbl ganolog i sicrhau’r defnydd o’r Gymraeg mewn meysydd newydd ac arloesol.

 

Byddwn yn falch iawn petaech chi’n gallu ymuno â ni yn Aberystwyth. Mae croeso hefyd ichi anfon y gwahoddiad hwn ymlaen at unigolion eraill y credwch fyddai â diddordeb mewn mynychu. Ein gobaith yw cynnull cynifer o bobl â phosibl er mwyn sicrhau fod y drafodaeth yn gynrychioladol a ffrwythlon.

 

Os hoffech fynychu’r seminar a oes modd ichi anfon e-bost i’r cyfeiriad hwn [log in to unmask] erbyn 15 Hydref 2007 os gwelwch yn dda gan nodi hefyd os bydd arnoch angen defnyddio offer cyfieithu ar y pryd. Bydd rhaglen gyflawn ar gyfer y seminar yn dilyn yn y man ond os hoffech ragor o wybodaeth yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy ddefnyddio’r un cyfeiriad e-bost.
-- Mae'r e-bost yma'n amodol ar delerau ac amodau ymwadiad e-bost Prifysgol Bangor. Gellir darllen testun llawn yr ymwadiad yma: www.bangor.ac.uk/emaildisclaimer
This email is subject to the terms and conditions of the Bangor University email disclaimer. The full text of the disclaimer can be read here: www.bangor.ac.uk/emaildisclaimer