Annwyl aelodau'r cylch,
Mae Lowri Williams, Bwrdd yr Iaith wedi gofyn i mi basio'r neges hon
ymlaen at y cylch. Cyfle da i ni gael gwybod y diweddaraf o'r byd
termau yng Nghymru, ac i gyfarfod â'n gilydd wynbeb yn wyneb am unwaith!
Fel y mae'r neges yn dweud, mae croeso i chi basio'r gwahoddiad ymlaen
at bobl eraill hefyd, gorau i gyd mwya i gyd o bobl sy'n gwybod am yr
achlysur.
Yn y gobaith o'ch gweld chi yno,
Delyth
Annwyl Gyfaill
Hoffwn eich gwahodd i seminar i
drafod y maes termau
Cymraeg a gynhelir am 11am, ar 30 Hydref 2007 yn y Llyfrgell
Genedlaethol,
Aberystwyth. Bydd y seminar hwn yn un hanner diwrnod dros ginio.
Cyfle i dynnu ynghyd arbenigwyr
sy’n gweithio yn y
maes, cyfieithwyr a phobl sydd angen termau safonol ar gyfer hwyluso
defnyddio’r
Gymraeg yn eu priod feysydd yw’r seminar hwn. Wrth sefydlu ei hun yn
gorff cenedlaethol i gydlynu safoni termau ac enwau lleoedd, mae’r
Bwrdd
yn awyddus i roi llwyfan i'r gweithgarwch sy'n digwydd yn y maes
allweddol hwn,
ac i godi ymwybyddiaeth ynghylch y gwahanol brosiectau a gynhelir mewn
meysydd
go amrywiol ar hyd a lled y wlad.
Bydd modd clywed am rai o’r
prosiectau a’r
datblygiadau diweddaraf yn y byd safoni termau yng Nghymru. Ceir
cyflwyniadau
gan gyfieithwyr Gwasanaeth Cyfieithu
Llywodraeth Cynulliad Cymru, Canolfan Bedwyr ac aelodau o staff y Bwrdd
ymhlith
nifer o gyrff ac unigolion eraill. Bydd y seminar hefyd yn gyfle i
drafod rhai
o’r ystyriaethau hynny sy’n codi wrth drin a safoni termau, ac wrth
ddefnyddio termau newydd yn fwy ymarferol wrth gyfieithu a gweithio
trwy
gyfrwng y Gymraeg. Bydd cyfle hefyd i drafod gosod blaenoriaethau ar
gyfer
gwaith safoni termau’r dyfodol mewn maes sydd yn gwbl ganolog i
sicrhau’r defnydd o’r Gymraeg mewn meysydd newydd ac arloesol.
Byddwn yn falch iawn petaech
chi’n gallu ymuno â ni
yn Aberystwyth. Mae croeso hefyd ichi anfon y gwahoddiad hwn ymlaen at
unigolion eraill y credwch fyddai â diddordeb mewn mynychu. Ein gobaith
yw
cynnull cynifer o bobl â phosibl er mwyn sicrhau fod y drafodaeth yn
gynrychioladol
a ffrwythlon.
Os hoffech fynychu’r seminar a
oes modd ichi anfon
e-bost i’r cyfeiriad hwn [log in to unmask]
erbyn 15 Hydref 2007 os gwelwch yn dda gan nodi hefyd os bydd arnoch
angen
defnyddio offer cyfieithu ar y pryd. Bydd rhaglen gyflawn ar gyfer y
seminar yn
dilyn yn y man ond os hoffech ragor o wybodaeth yn y cyfamser, mae
croeso i chi
gysylltu â ni drwy ddefnyddio’r un cyfeiriad e-bost.
--
Mae'r e-bost yma'n amodol ar delerau ac amodau ymwadiad e-bost Prifysgol
Bangor. Gellir darllen testun llawn yr ymwadiad yma:
www.bangor.ac.uk/emaildisclaimer
This email is subject to the terms and conditions of the Bangor University
email disclaimer. The full text of the disclaimer can be read here:
www.bangor.ac.uk/emaildisclaimer