Print

Print


Huw Tegid wrote:
> Ie, dwi'n cytuno.  Roeddwn i ar fin awgrymu 'Safle Swyddi' tan i mi weld bod hwnnw'n bod yn barod:
> 
> 
> www.safleswyddi.com
> 
>  
> Cofion gorau,
> 
> Huw
> 
> 
> -----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
> Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Puw, John
> Anfonwyd/Sent: 21 September 2007 15:21
> At/To: [log in to unmask]
> Pwnc/Subject: Re: jobzone
> 
> Parth Gwaith o bosib
> 
> Gellid ychwanegu Mentergarwch ac ati at y Pyrth yn eitha di-boen ar ôl hynny
> 
> John Puw
> Cyfieithydd / Translator
> Uned Gyfieithu / Tranlation Unit
> Adran Gwasanaethau Iaith Gymraeg / Welsh Language Services Department Ffôn / Tel: 01492 510935 Est / Ext: 6135 E-bost / E-mail: [log in to unmask]
> 
>  
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Jones,Sylvia Prys
> Sent: 21 September 2007 15:06
> To: [log in to unmask]
> Subject: jobzone
> 
> Unrhyw awgrymiadau? Mae'r coleg wedi defnyddio'r gair Jobmart ers blynyddoedd, term sy'n gweithio'n weddol hwylus yn y ddwy iaith ond mae swyddog newydd di-Gymraeg wedi penderfynu ail-frandio'r gwasanaeth yn Jobzone, gan obeithio creu zones eraill maes o law fel Enterprise Zone etc. Mae jobzone yn cyfeirio at wasanaeth yn hytrach na lle daearyddol er bod y swyddog yn gobeithio y bydd yna swyddfa maes y law efo'r gwahanol 'zones' mewn gwahanol rannau ohoni. Mae'r gwasanaeth yn hysbysebu swyddi gwag, lleoliadau gwaith, gwaith dros dro ac yn helpu myfyrwyr i lenwi ffurflenni cais, yn darparu lleoliad ar gyfer cyfweliadau etc.
> 
> Diolch yn fawr,
> 
> Sylvia.
A dweud y gwir dwi'n licio Safle Swyddi'n fawr iawn. Dwi ddim yn hoff 
o'r gair Parth oherwydd tydi o ddim yn gyfarwydd i bobl. Mi wna i 
awgrymu Safle Swyddi i'r Adran Gyrfaoedd. Dim ots fod y term yn cael ei 
ddefnyddio mewn llefydd eraill, mae Jobzone yn cael ei ddefnyddio mewn 
lot o lefydd hefyd.

Diolch yn fawr

Sylvia.

-- 
Dr Sylvia Prys Jones    01248 382036  <[log in to unmask]>

Uned Gyfieithu/Translation Unit
Canolfan Bedwyr
Prifysgol Cymru, Bangor/University of Wales, Bangor

-- 
Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi,
gynnwys deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig
gan y sawl y cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y
neges e-bost hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar
unwaith a dilëwch y neges. Os na fwriadwyd anfon y neges atoch chi,
rhaid i chi beidio â defnyddio, cadw neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a
gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i
hanfonodd yn unig  ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli barn
Prifysgol Bangor. Nid yw Prifysgol Bangor yn gwarantu
bod y neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu
100% yn ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn
nhestun yr e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract
rhwymol - mae rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa
Cyllid Prifysgol Bangor.  www.bangor.ac.uk

This email and any attachments may contain confidential material and
is solely for the use of the intended recipient(s).  If you have
received this email in error, please notify the sender immediately
and delete this email.  If you are not the intended recipient(s), you
must not use, retain or disclose any information contained in this
email.  Any views or opinions are solely those of the sender and do
not necessarily represent those of the Bangor University.
Bangor University does not guarantee that this email or
any attachments are free from viruses or 100% secure.  Unless
expressly stated in the body of the text of the email, this email is
not intended to form a binding contract - a list of authorised
signatories is available from the Bangor University Finance
Office.  www.bangor.ac.uk