'Matinee Rhif 52 yr Arglwydd Faer'? (Gall yr 'r' yn 'rhif' fod yn llythyren fach neu'n briflythyren.) Byddai golwg go ryfedd ar unrhyw ffurf a fyddai'n ceisio crynhoi 'ail Fatinee'r Arglwydd Faer wedi'r hanner cant', 'Hanner cant ac ail Fatinee'r Arglwydd Faer' ac ati. Berwyn ----- Original Message ----- From: annes gruffydd To: [log in to unmask] Sent: Sunday, September 16, 2007 10:06 AM Subject: 52nd Lord Mayor's Matinee Enw sioe ydi hwn. Be ydi'r ffordd gywir/orau/fwya cryno o ddeud hyn plis? Roeddwn i wedi penderfynu mai 52fed oedd o ond rwan dwi ddim yn siwr. Yn ol patrwm 17fed dyna fasa fo. He-e-e-elp! Diolch ymlaen llaw. Annes ------------------------------------------------------------------------------ No virus found in this incoming message. Checked by AVG Free Edition. Version: 7.5.487 / Virus Database: 269.13.21/1010 - Release Date: 15/09/2007 19:54