Mae'n well gen i ddefnyddio 'dolen' am 'link' mewn cyd-destun
cyfrifiadurol (does neb wedi codi cwestiwn yn ei gylch hyd yma). Dwi
ddim yn hoff iawn o 'cysylltiadau' (mae'n medru achosi penbleth am ei
fod yn golygu 'connections') na 'linciau' (gair benthyg diangen yn fy
marn i!).
Ceri
Inc Cyfieithu Translations wrote:
[log in to unmask]"
type="cite">
Mae Termau Cyfrifiadur Bangor yn
rhoi 'cysylltiadau' am links ond rydw i'n sylwi fod defnydd cynyddol o
'linciau' mewn cyfeithiadau, a sawl enghraifft gan Goleg Bangor ei
hun. Pa mor bell mae'r term 'linciau' wedi ennill ei blwyf?
Wil
--
Ceri Skinner
Swyddog Prosiect CyMAL | CyMAL Project Officer
Adran Gwasanaethau Casgliadau | Department of Collection Services
Llyfrgell Genedlaethol Cymru | National Library of Wales
Aberystwyth, Ceredigion | Aberystwyth, Ceredigion
SY23 3BU | SY23 3BU
01970 632472 [log in to unmask]