----- Original Message -----From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Huw GaranTo: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]Sent: Wednesday, August 08, 2007 3:17 PMSubject: ATB: burgundydrop bonnetDiolch am eich sylwadau.Rwy'n cytuno â chi, benywaidd yw cenedl arferol 'bonet' i finnau hefyd, er bod GyrA yn mynnu ei bod yn wrwaidd yn y cyswllt hwn. Rwy hefyd yn hoffi'r enw rych chi'n ei gynnig - dyma oedd fy nghynnig cyntaf felly hawdd iawn yw cytuno!Rwy' wedi newid yr enw i 'fonet waedlyd', gan osgoi'r ddadl coed/pren am nad oes gwir angen yr un o'r ddau.Diolch unwaith etoHg
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Ann Corkett
Anfonwyd/Sent: 08 August 2007 15:01
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: burgundydrop bonnetDyma ymateb Bruce:1. Benywaidd yw "bonet", felly "waedlyd" nid "gwaedlyd".2. Pa beth sy'n waedlyd? Y fonet ynteu'r coed? Bonet waedlyd y coed fyddai'n gywirach ac yn well Cymraeg.Pa un bynnag, enw symlach arno yw "bleeding mycena" - "when the stem is broken it exudes a blood-red milk". Felly, os cedwir yr enw "bonet" (benywaidd), yr enw symlaf fyddai "bonet waedlyd [y coed]"Yn anffodus, ceir hefyd "blood-red mycena" [M. sanguinolenta], sy'n hynod debyg i'r llall, ond heb fod yn waetgoch o gwbl! - "this contains a red milk".Tebyg y byddai'n rhaid galw hon yn "fonet waetgoch". Tyf hon ar y llawr, nid ar hen foncyffion fel y gwna'r fonet waedlyd. Wrth feddwl, mae'n debyg bod yr elfen "y coed" yn cyfeirio at yr arfer o dyfu ar goed, ac nid at y cynefin, gan fod y ddau fath yn tyfu yn y goedwig. Tybed a fyddai "bonet waedlyd [y pren]" yn fanwl gywirach?Bruce----- Original Message -----From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Ann CorkettTo: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]Sent: Wednesday, August 08, 2007 2:33 PMSubject: Re: burgundydrop bonnetAra bach, Huw. Mae Bruce wrthi'n ymateb, ond yn bendant bydd angen newid rywfaint, gan fod "bonet" yn fenywaidd.Ann----- Original Message -----From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Huw GaranTo: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]Sent: Wednesday, August 08, 2007 1:12 PMSubject: ATB: burgundydrop bonnetRwy' wedi setlo ar 'bonet y coed gwaedlyd' gan ddilyn 'bonet y coed = bonnet' yng NgyrA.Hg
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Bethan Jones
Anfonwyd/Sent: 07 August 2007 21:23
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: burgundydrop bonnet
Pwysigrwydd: UchelYn 'Rhestr o enwau Ffyngoedd' a gyhoeddwyd yn 'Y Naturiaethwr'[tua 1986], mae Mycena galericulata (Bonet Mycena) yn 'Bonet coed'. Wn i ddim os ydi hyn yn rhywfaint o gymorth.Cofion cynnes,
Bethan
01248 723510
07713 862792
Ystyriwch yr amgylchedd cyn argraffu'r e-bost hwn.
Please consider the environment before printing this email.----- Original Message -----From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Huw GaranTo: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]Sent: Tuesday, August 07, 2007 8:41 PMSubject: burgundydrop bonnetFfwng yw hwn, Mycena haematopus, ond rwy'n methu dod o hyd i enw Cymraeg arno. Unrhyw awgrymiadau?DiolchHg
No virus found in this outgoing message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.5.476 / Virus Database: 269.11.8/940 - Release Date: 06/08/2007 16:53
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.5.476 / Virus Database: 269.11.8/940 - Release Date: 06/08/2007 16:53
No virus found in this outgoing message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.5.476 / Virus Database: 269.11.8/941 - Release Date: 07/08/2007 16:06