Diolch i bawb am ei gynigion. Er gwybodaeth, dywedodd yr awdur mai'r prif syniad yr oedd am ei gyfleu oedd bod "llun" gwahanol i'w weld trwy bob un o'r bwa^u, ac felly gellid dweud eu bod yn "cystadlu". Yn y diwedd pederfynsom ar "Bwa^u am y Gorau". Prif anawsterau ei deitlau oedd y nifer o weithiau y defnyddiodd "reflecting" i olygu adlewyrchu a myfyrio gyda'i gilydd, a'i hoffter o lusgo palod i mewn i unrhyw beth yn ymwneud ag Ynys Seiriol (h.y. Puffin Island), ond 'dyn ni wedi cytuno ar bopeth yn y diwedd. Diolch unwaith eto, Ann ----- Original Message ----- From: Non To: [log in to unmask] Sent: Monday, August 20, 2007 9:25 AM Subject: Re: Arch Rivals I mewn i'r arch a nhw? ----- Original Message ----- From: Ann Corkett To: [log in to unmask] Sent: Saturday, August 18, 2007 12:32 PM Subject: Re: Arch Rivals Gwych; mae'n ffitio'r teitl yn dda iawn - ond efallai nid cymaint y llun, sy'n canolbwyntio ar ffurfiau tywyll y tri bwa o flaen y "bwthyn" a bwa'r twr uwchben y ffordd i'w weld trwy'r un canol (Ydych chi erioed wedi sylwi bod 'na dy, neu ystafelloedd o leiaf, yn rhan o'r bont, ar ochr y tir mawr? Mae'n debyg mae swyddfa Telford ydoedd ar un adeg). Dw i'n gweld y cyfeiriad at Brunel wedi'i lusgo i mewn braidd, i gyfiawnhau'r teitl. Mae gan yr awdur sawl llun o'r bont, felly mi eglura i'r teitl a'i gefndir - mae'n siwr o fod yn handi'n hwyr neu'r hwyrach! Diolch yn fawr iawn, Ann ----- Original Message ----- From: Geraint Løvgreen To: [log in to unmask] Sent: Saturday, August 18, 2007 11:39 AM Subject: Re: Arch Rivals A fo ben, bid bont ----- Original Message ----- From: Catrin Alun To: [log in to unmask] Sent: Saturday, August 18, 2007 10:57 AM Subject: Re: Arch Rivals Pontio'r Gwahaniaeth ?? Catrin ----- Original Message ----- From: Ann Corkett To: [log in to unmask] Sent: Saturday, August 18, 2007 10:48 AM Subject: Arch Rivals Enghraifft arall o'r problemau efo'r un llyfr o ffotograffau yw "Arch Rivals". Mae'r llun yn edrych allan trwy fwau'r ty bychan sy'n rhan o un pen Pont y Borth, ond mae'r testun yn y llyfr yn son am Telford a Brunel, pensaer Pont Britannia, hefyd. Ar y llaw arall, bydd y teitl yn cyd-fynd a phrintiau a fydd ar werth heb y testun. Croeso i unrhyw gynigion, ond dw i'n amau y byddai'n well imi anelu at rywbeth syml, na fydd yn mynd yn boenus ym mhen amser i bwy bynnag sy'n prynu'r print. Ann ---------------------------------------------------------------------- No virus found in this incoming message. Checked by AVG Free Edition. Version: 7.5.484 / Virus Database: 269.12.0/957 - Release Date: 16/08/2007 13:46 -------------------------------------------------------------------------- No virus found in this incoming message. Checked by AVG Free Edition. Version: 7.5.484 / Virus Database: 269.12.0/959 - Release Date: 17/08/2007 17:43 ------------------------------------------------------------------------------ No virus found in this incoming message. Checked by AVG Free Edition. Version: 7.5.484 / Virus Database: 269.12.0/961 - Release Date: 19/08/2007 07:27