Print

Print


Byddwn i'n bersonol yn dweud fod 'Dim Smygu Cymru' yn enghraifft o 
'wrthrych damweiniol' ac y dylid osgoi'r union gystrawen hon. Ar y llaw 
arall, byddai ychwanegu cysylltnod hir rhwng 'Smygu' a 'Cymru' yn datrys 
y broblem, h.y. Dim Smygu - Cymru.

Treiglir mewn cyfarchiad, h.y, 'Foneddigion a boneddigesau', 'Bore da, 
bawb'. Fodd bynnag, credaf y byddai 'Dim Smygu, Gymru', am ryw reswm, 
ychydig yn chwithig, am y byddai'n cymryd peth amser i rai pobl 
sylweddoli mai cyfarchiad oedd y frawddeg.

Helen (A Banachyfîs am byth!!!!!)

Ysgrifennodd Rhian Huws:
> Diolch i bawb am eu hargymhellion. Fe wna i restr ac fe basiaf y byc, 
> fel petae!
> Un cwestiwn bach arall - a yw 'Dim Smygu Cymru' yn ramadegol gywir? A 
> oes rhywun yn debygol o ddadlau y dylid treiglo 'Cymru' gan eu bod yn ei 
> ddehnogli fel gorchymyn - 'Dim Smygu Gymru' e.e. Dim rhedeg blant - neu 
> ai fi sy'n hollol ddwl ar fore Gwener?!
> Mawr ddiolch
> Rhian
> 
>  
> ------------------------------------------------------------------------
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary 
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Løvgreen
> Sent: 16 August 2007 17:22
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: Stop Smoking Wales
> 
> Cymru'n Rhoi'r Gorau iddi
> 
>     ----- Original Message -----
>     From: Ann Corkett <mailto:[log in to unmask]>
>     To: [log in to unmask]
>     <mailto:[log in to unmask]>
>     Sent: Thursday, August 16, 2007 4:09 PM
>     Subject: Re: Stop Smoking Wales
> 
>     Cymru Ddi-fwg?
>     Ann
> 
>         ----- Original Message -----
>         From: Rhian Huws <mailto:[log in to unmask]>
>         To: [log in to unmask]
>         <mailto:[log in to unmask]>
>         Sent: Thursday, August 16, 2007 3:39 PM
>         Subject: Stop Smoking Wales
> 
>         P'nawn Da
>         Wedi cael cais i gyfieithu'r uchod - enw newydd ar y 'Smoking
>         Cessation Service'. Mae nhw am gael rhywbeth bachog, sydd ddim
>         yn rhy hir, felly wnaiff ' Rhoi'r Gorau i Ysmygu Cymru' mo'r tro!
> 
>         Hyd yma 'Dim (y)smygu Cymru' yw'r agosaf ati!
>         Yn ddiolchgar am unrhyw ysbrydoliaeth!
>         Rhian
> 
>         Rhian Huws
>         Arbenigwr Iaith Gymraeg/Welsh Language Specialist
>         Canolfan Iechyd Cymru/Wales Centre for Health
>         14 Ffordd yr Eglwys Gadeiriol/14 Cathedral Road
>         Caerdydd/Cardiff
>         CF11 9LJ
>         Ffôn/Telephone: 029 20227744
>         Ebost/Email: [log in to unmask]
>         Ystyriwch yr amgylchedd cyn argraffu'r e-bost hwn - diolch / 
>         Please consider the environment before printing this email -
>         thank you
> 
> 
>         ------------------------------------------------------------------------
> 
>         No virus found in this incoming message.
>         Checked by AVG Free Edition.
>         Version: 7.5.484 / Virus Database: 269.11.19/955 - Release Date:
>         15/08/2007 16:55
> 



-- 
Helen Smith (Cyfieithydd/Translator)
Canolfan Bedwyr	
[log in to unmask]
Ffôn/Tel: 	01248 383253 (allanol/external)
		est/ext 3253 (mewnol/internal)

 >^..^<  >^..^<  >^..^<  >^..^<  >^..^<  >^..^<  >^..^<


-- 
Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi,
gynnwys deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig
gan y sawl y cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y
neges e-bost hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar
unwaith a dilëwch y neges. Os na fwriadwyd anfon y neges atoch chi,
rhaid i chi beidio â defnyddio, cadw neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a
gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i
hanfonodd yn unig  ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli barn
Prifysgol Cymru, Bangor. Nid yw Prifysgol Cymru, Bangor yn gwarantu
bod y neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu
100% yn ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn
nhestun yr e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract
rhwymol - mae rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa
Cyllid Prifysgol Cymru, Bangor.  www.bangor.ac.uk

This email and any attachments may contain confidential material and
is solely for the use of the intended recipient(s).  If you have
received this email in error, please notify the sender immediately
and delete this email.  If you are not the intended recipient(s), you
must not use, retain or disclose any information contained in this
email.  Any views or opinions are solely those of the sender and do
not necessarily represent those of the University of Wales, Bangor.
The University of Wales, Bangor does not guarantee that this email or
any attachments are free from viruses or 100% secure.  Unless
expressly stated in the body of the text of the email, this email is
not intended to form a binding contract - a list of authorised
signatories is available from the University of Wales, Bangor Finance
Office.  www.bangor.ac.uk