Print

Print


Byddwn i'n cynnwys y fannod ac yn treiglo. Fe all mai un o achosion y dryswch yw bod y genidol yn ymddangos yn y ffurf Saesneg (h.y. Department of Mathematics).
 
Peidio â threiglo mewn cyfuniadau sy'n digwydd ar ôl enwau benywaidd yw'r 'rheol' , h.y. 'Yr Adran Ddiwydiant' ond 'Yr Adran Diwydiant a Marchnata'.
Berwyn
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Osian Rhys
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Wednesday, July 04, 2007 4:22 PM
Subject: uned cyfieithu/yr uned gyfieithu

Annwyl Gyfeillion,

Un peth sydd wedi bod yn fy nhrwblu i a'm cydweithwraig yn ddiweddar yw lle'r fannod a threiglad meddal mewn enwau adrannau ac ati. Rydym yn ceisio cyfieithu a diweddaru enwau'r adrannau yn un rhes felly mae anghysondebau rhwng gwaith gwahanol gyfieithwyr nawr ac ar wahanol adegau wedi dod i'r amlwg. Sôn amdanyn nhw fel teitlau'r adrannau ydw, a hynny ar gardiau busnes yr holl sefydliad, felly nawr yw'r amser i'w cael nhw'n iawn ac fe hoffem gael rhyw gymaint o gysondeb os oes modd. Falle y bydde'n well i fi roi enghreifftiau:

Yr Adran Farchnata
Adran Farchnata
Adran Marchnata

Y Swyddfa Ryngwladol
Swyddfa Ryngwladol
Swyddfa Rhyngwladol

Yr Adran Fathemateg
Adran Fathemateg
Adran Mathemateg

Dw i'n rhyw deimlo bod y cyntaf yn yr enghreifftiau uchod yn swnio'n fwy Cymreig a naturiol, ond dw i hefyd yn credu bod tuedd gynyddol i ddefnyddio'r trydydd ( h.y. dim bannod na threiglo). Ydy hynny'n wir?

Beth yw eich barn chi? Falle mod i'n anghywir, ond os cofia i'n iawn, pan ddechreuais i gyfieithu roedd uwch gyfieithwyr yn tueddu i gywiro fy ngwaith i gan roi'r ffurf gysefin mewn enghreifftiau tebyg i'r uchod, lle ro'n i wedi treiglo. Beth yw'r rheswm am hynny?

Esgusodwch fy anwybodaeth a diolch am eich help.

Osian.


No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.5.476 / Virus Database: 269.9.14/885 - Release Date: 03/07/2007 10:02