Rwy i hefyd wedi cael fy nghynghori i ddefnyddio’r fannod bob amser. A chofier, dyw’r ffaith fod tair rmiliwn o enghreifftiau ar Google yn golygu: peryg mawr yw dibynnu ar hwnnw fel awdurdod ar ddim. Ar y llaw arall, efallai fod angen inni dderbyn bod hepgor y fannol yn dderbyniol yn anffurfiol os yw pobl yn mynnu gwneud hynny, ond heb ddweud, ychwaith, fod mynnu cael y fannod yn anghywir. Dyna i chi eistedd ar ben clawdd go iawn!

Mary

 


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Rhisiart Hincks
Sent: 06 July 2007 20:53
To: [log in to unmask]
Subject: Re: unedcyfieithu/yr uned gyfieithu

 

O ran yr iaith ffurfiol, cefais fy nghyfarwyddo bob amser i beidio byth â hepgor y fannod: a'r tu hwnt, a'r pryd hynny. ’Rwyf yn sicr na fyddai hepgor y fannod yn dderbyniol gan rai. Mewn gwirionedd ni ellir cael hwn, hon, hyn, hynny etc. heb fod y fannod yn rhagflaenu'r enw. Peth arall yw iaith anffurfiol, wrth gwrs. O ran hwnt, cymharer a'r tu chwithig, a'r ochr dde etc. Mae'n amlwg fod defnyddio'r fannod yn rhesymegol.

 

Rhisiart

----- Original Message -----

From: [log in to unmask]">Berwyn Jones

Sent: Friday, July 06, 2007 6:05 PM

Subject: Re: unedcyfieithu/yr uned gyfieithu

 

O edrych yn Gramadeg y Gymraeg, td 435, cawn oleuni pellach. Mae'r ddwy ffurf yn gywir! Dyfynnir y frawddeg enghreifftiol 'Ym Mro Morgannwg a'r tu hwnt/a thu hwnt'. 

 

Tebyg yw'r patrwm o ran pryd. Gellir dweud 'y pryd hynny' a 'bryd hynny' heb sathru ar gyrn gramadegol neb.

 

Rwy'n credu mai dal i ddi-fanodi (!) wna i ...

 

Berwyn

----- Original Message -----

From: [log in to unmask]">David Bullock

Sent: Friday, July 06, 2007 2:48 PM

Subject: unedcyfieithu/yr uned gyfieithu

 

Mae gen i gwestiwn arall am y fannod lle mae’n cael ei hepgor yn gyffredin ond lle mae angen ei chael hi, am wn i. Shwt mae pawb arall yn gweld hyn, tybed?

 

Bwriwch eich bod chi am ddweud bod rhyw bolisi yn effeithio ar gylch Caerdydd ond bod ei ddylanwad yn treiddio i ardal ehangach na chylch Caerdydd hefyd, gallech sôn am effeithio “ar Gaerdydd a’r tu hwnt”.

 

Eto i gyd, pethau fel “Caerdydd a thu hwnt” welwch chi yn aml iawn, neu “Ewrop a thu hwnt”, “y tu mewn a thu allan” – mae digon o enghreifftiau ar gael drwy ddefnyddio Google.

 

Mae angen y fannod on’d oes?

 

David

Mae cronfa Ras Tŷ Hafan ar agor am ychydig ddyddiau eto os hoffech chi helpu'r hosbis plant. http://www.justgiving.com/davidmbullock

My sponsorship page for Tŷ Hafan children's hospice is open to new supporters for just a few more days.

 


Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran annes gruffydd
Anfonwyd/Sent: 06 July 2007 13:54
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: unedcyfieithu/yr uned gyfieithu

 

Ynghylch pwynt 'hollti blew' Berwyn. Mae'n rhaid i my gyfadda y bydda i weithia'n hepgor y fannod mewn achosion felly er mod i'n gwbod mod i'n pechu - weithia mewn holiaduron ne ffurflenni ychydig iawn o le sy na ac ma pobol yn bigog iawn os dwi'n rhoi rwbath iddyn nhw sy gymaint ddwywaith a'r Saesneg. Mea culpa, mea culpa, mea maxima culpa.

 

Annes


No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.5.476 / Virus Database: 269.10.1/888 - Release Date: 06/07/2007 06:36


--
This message has been scanned for viruses and
dangerous content by SpamAlizer, and is
believed to be clean.