Aha!
Mae mater y fannod mewn penawdau wedi codi yma'n ddiweddar.  Roeddwn i wedi cyfieithu pennawd "Background" fel "Y Cefndir" a dyma "our Welsh-speaker in the office" yn fy nhaclo a dweud nad "The Background" oedd yn y Saesneg - yr awgrym oedd mod i'n ceisio chwyddo nifer y geiriau gan fy mod i'n cael fy nhalu fesul gair i'r iaith darged (arferiad sy'n prinhau, dw i'n meddwl).

Un mater bach arall am y fannod, ychydig oddi ar y pwnc - Mae'n ymddangos bod y penderfyniad od i ailfrandio Plaid Cymru fel "Plaid" yn cael effaith ar fudiadau eraill. Dyma bennawd mewn datganiad gan Gymdeithas yr Iaith:
"CYMDEITHAS YN GWRTHOD CANLYNIAD AROLWG Y BBC".  Gobeithio mai dim ond diffyg lle sy'n gyfrifol.

Pwynt bach arall oddi ar y pwnc - Roedd Berwyn yn sôn am wahaniaethau De/Gogledd.  Ffoniodd darpar-gwsmer dierth yn ddiweddar wedi cael fy enw o restr y Gymdeithas Cyfieithwyr (neu Gymdeithas y Cyfieithwyr!) a dweud "I chose you because you're in North Wales. I've been advised to avoid translators from South Wales as their Welsh isn't very good."
"E feri wais disishyn on ior part," medde fi yn fy acen Trefor orau! 

Reit - gwaith!

Hwyl
Siân

On 6 Jul 2007, at 07:35, Berwyn Jones wrote:

Ga i gywiro un gosodiad gan Rhisiart, sef:
 
er y dywedir yn naturiol y swyddfa bost ..., swyddfa’r post ... sydd fwyaf derbyniol yn ysgrifenedig.
 
Osa ca i ailadrodd neges a anfonais i w-t-c drwy Magi yn 2001, nid dyna'r gwir:
 
"efallai y dylwn esbonio mai 'Swyddfa'r Post' yw'r cyfieithiad o 'Post Office' fel enw'r gorfforaeth ... a 'swyddfa bost' yw'r enw ar y swyddfa unigol. Mae'n debyg mai anghytundeb rhwng rhyw Ddeheuwr a Gogleddwr (Thomas Parry ?) sy'n gyfrifol am greu dau enw yn lle un!"
 
Pwynt arall yw mater y fannod mewn teitlau. Sylwoch chi fod 'Y Bwrdd Iaith', yn hytrach na 'Bwrdd yr Iaith', yn dalfyriad cyffredin ar y teitl llawn, sef 'Bwrdd yr Iaith Gymraeg', a hynny, mae'n debyg, dan ddylanwad tuedd gogleddwyr (yn ôl Dr Enid Pierce Roberts) i ddweud pethau fel 'y neuadd bentre' yn hytrach na 'neuadd y pentre'?
 
Bydd mater y fannod hefyd yn codi mewn penawdau. 'Context' medd pennawd yn y Saesneg. 'Cyd-destun', medd y cyfieithydd. Ond nid 'A Context' yw'r pennawd Saesneg. Oni ddylen ni felly roi 'Y Cyd-destun', 'Y Cynnwys' ac ati yn ein cyfieithiadau (ac ym mhobman arall)?
 
Hollti blew? Digon posib!
 
Berwyn
 
----- Original Message -----
From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]">Matthew Clubb
To: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Thursday, July 05, 2007 11:15 AM
Subject: ATB: uned cyfieithu/yr uned gyfieithu

Efallai y bydd yr esboniadau isod yn ddefnyddiol. Dyma'r nodiadau y bydd Rhisiart Hincks yn eu defnyddio yn ei ddosbarthiadau iaith. (A diolch i Rhisiart am ei ganiatâd imi ddyfynnu'r canllawiau hyn):
 
"1.         Rheol ddigon cyfarwydd yw fod yn rhaid treiglo ansoddair sy’n dilyn enw benywaidd unigol, e.e. siop fach, cymdeithas gref, gwraig lawen, a gwyddys hefyd y treiglir pob ansoddair arall sy’n goleddfu’r un enw ac yn ei ddilyn, e.e. siop fach gynnes, cymdeithas gref wledig, gwraig lawen ddi-hid; ond cyfyd anawsterau pan gyfunir dau enw neu ddau enw ac ansoddair.
 
2.         Pan fydd enw’n dilyn enw arall dywedir bod yr ail enw mewn perthynas enidol â’r cyntaf a chan amlaf erys yr ail enw’n ddidreiglad yn y gystrawen hon, e.e. calon mam, merch brenin, Prifysgol Cymru, rhestr llyfrau. Yn achos rhai cyfuniadau, fodd bynnag, ystyrir mai swyddogaeth ansoddeiriol sydd gan yr ail enw ac fe’i treiglir fel pe bai’n ansoddair, e.e. siop lyfrau, ysgol fabanod, tref farchnad.
 
3.         Gall pennu’r ffin rhwng y ddau ddosbarth hyn fod yn ddigon dyrys, a hawdd y gellid dadlau fod rhestr lyfrau yr un mor dderbyniol â rhestr llyfrau. Tuedd yr iaith lafar yw troi’r ail enw’n ansoddeiriol lle nas ystyrir felly yn llenyddol, ac er y dywedir yn naturiol y swyddfa bost, yr Adran Ddrama, yr Adran Gymraeg etc., swyddfa’r post, Adran Drama, Adran y Gymraeg sydd fwyaf derbyniol yn ysgrifenedig. Os dymunir bod yn fwy penodol, fodd bynnag, a sôn am deip arbennig o ‘swyddfa’ neu ‘adran’ etc., neu am un lle penodol, y mae’n rhaid arfer y gystrawen gyntaf, e.e. yn y swyddfa bost leol, mewn adran ddrama well, yn yr adran Gymraeg hynaf.
 
4.         Dyma rai enghreifftiau eraill lle y ceir cyfuniad o ddau enw, a lle y mae swyddogaeth ansoddeiriol i’r ail enw:
 
            1.         siop fwyd
            2.         cystadleuaeth ddrama
            3.         adran lawysgrifau
            4.         stondin lyfrau
            5.         Amgueddfa Lechi Cymru
            6.         ffatri geir
 
            Os ychwanegir ansoddair sy’n goleddfu’r ail enw yna peidia’r ail enw â bod yn ansoddeiriol, ac ni chaiff ei dreiglo:
 
            1.         siop bwydydd iach (Awgrymai siop fwydydd iach fod y siop yn hytrach na’r bwydydd yn iach.)
            2.         cystadleuaeth dramâu byrion
            3.         adran llawysgrifau diweddar
            4.         stondin llyfrau ail-law
            5.         Amgueddfa Bywyd Gwyllt Cymru
            6.         ffatri prosesu bwyd
 
            cf.        effaith tŷ gwydr
                        siop llyfrau Cymraeg
                        llenyddiaeth Cymraeg Canol
 
            Gellir cyferbynnu effaith tŷ gwydr, lle y mae’r tŷ yn wydr, â photel laeth wag lle y mae’r botel yn wag. Eithriad amlwg i’r hyn a ddisgwylir pan geir enw + enw + ans. yn goleddfu’r ail enw yw:
 
                        potel ddŵr poeth (Disgrifio’r dŵr a wna ‘poeth’ ond cymerir bod ‘dŵr poeth’
                                                                 yn ansoddeiriol ac nid yn enidol.)"
 
 


Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran David Bullock
Anfonwyd/Sent: 05 July 2007 09:46
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: uned cyfieithu/yr uned gyfieithu

Ac eto i gyd, mewn cyfnod pan nad oes gan y rhan fwya o bobl glust at bethau fel hyn, mae arnon ni angen esboniad.

 

Rhaid i’r esboniad (neu’r “rheol” os mynnwch chi) ddangos pam mae “Prifysgol Cymru” ar y naill law ac “Adran Gynllunio” ar y llaw arall yn swnio’n iawn a hefyd yn gywir o ran eu cystrawen.

 

Beth am rywbeth fel hyn fel man cychwyn:

 

1.       Mae’n hawdd credu bod y Brifysgol dan sylw yn perthyn i Gymru. Defnyddiwch y gair “genidol” os yw hynny’n helpu, a pheidiwch â threiglo.

 

2.       Mae’n hawdd credu hefyd mai ymwneud â chynllunio mae’r adran dan sylw: dyw’r adran ddim yn perthyn i gynllunio. Defnyddiwch y gair “ansoddeiriol” os yw hynny’n helpu, a threiglwch.

 

 

David

Mae cronfa Ras Tŷ Hafan ar agor am ychydig ddyddiau eto os hoffech chi helpu'r hosbis plant. http://www.justgiving.com/davidmbullock

My sponsorship page for Tŷ Hafan children's hospice is open to new supporters for just a few more days.

 


Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Gorwel Roberts
Anfonwyd/Sent: 05 July 2007 09:20
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: ATB: uned cyfieithu/yr uned gyfieithu

 

Mae modd dadlau dros Adran Cynllunio ond mae’n swnio’n chwithig iawn i’r glust ac mae’n bwysig i bethau swnio’n naturiol beth bynnag fo’r dadleuon gramadegol

 


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Siân Roberts
Sent: 05 July 2007 08:58
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ATB: uned cyfieithu/yr uned gyfieithu

 

Hyd y gwela i, mae/roedd  "Yr Adran Gynllunio" ac "Yr Adran Cynllunio" yn cael eu defnyddio gan gynghorau ac ati ac mae modd dadlau dros y naill a'r llall.

 

Siân

On 5 Jul 2007, at 08:42, annes gruffydd wrote:

 

Diolch, Geraint. Mae'n un o'r petha na (fath a dysgu a dallt y gwahaniaeth rhwng gerund a gerundive yn Lladin stalwm) dwi weithia'n ei ddallt yn iawn (a dwi'n gwbod be ydi'r rheswm dros dreiglo ne beidio) ond o bryd i'w gilydd ma hi'n anodd gwbod prun ta ansoddeiriol ta genidol ydi'r bali peth wedyn mae hi'n mynd yn nos arna i. Dal i gredu.

 

Annes

 

2007/7/4, Geraint Løvgreen <[log in to unmask]>:

Dwi ddim yn gwybod, Annes - dim ond gwybod hyn yn reddfol ydw i -

 

Yr Adran Gyswllt neu Adran Gyswllt y Cynulliad Cenedlaethol (ansoddeiriol)

OND

Adran Cyswllt Bywyd Gwyllt a'r Amgylchedd / Adran Cyswllt Plant â'u Rhieni (Genidol)

 

felly hefyd: Yr Uned Gyfieithu / Uned Gyfieithu'r Sir (ansoddeiriol)

OND

Uned Cyfieithu'r Beibl (genidol)

 

h.y. mae Uned Gyfieithu'r Sir yn uned gyfieithu sy'n perthyn i'r Sir, ond mae Uned Cyfieithu'r Beibl yn uned sy'n ymwneud â chyfieithu'r Beibl (yn hytrach na bod yn uned gyfieithu sy'n ymwneud â'r Beibl).

 

Dallt? Sori, mae'n glir fel mwd dydi.

 

Geraint

----- Original Message -----

From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">annes gruffydd

To: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">[log in to unmask]

Sent: Wednesday, July 04, 2007 8:13 PM

Subject: Re: ATB: uned cyfieithu/yr uned gyfieithu


 

Diolch, Geraint - weithia ma hi'n anodd drybeilig gwbod prun sy'n enidol a phrun sy'n ansoddeiriol. Dwi fel swn i'n cofio trafodaeth o'r blaen ar y pwnc yma. Jyst o ran myrrath pam mae cyswllt yn enidol yn y cyd-detun yma?? A sut gwyddost ti??! Sorri, dwi wedi blino braidd a ga i ddrwg gin Delyth toc ond mi fasa canllawia eto ar yr arswydus genidol ac ansoddeiriol yn gaffaeliad.

 

Annes

 

2007/7/4, Geraint Løvgreen <[log in to unmask]>:

Ie, ond heb dreiglo 'Cyswllt', achos mai genidol ydio yn y cyd-destun yma.

 

Geraint

----- Original Message -----

From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">annes gruffydd

To: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">[log in to unmask]

Sent: Wednesday, July 04, 2007 5:50 PM

Subject: Re: ATB: uned cyfieithu/yr uned gyfieithu


 

I fwydro petha ymhellach faswn i'n deud Adran Gyswllt Bywyd Gwyllt a'r Amgylchedd heb y fannod ar y dechra oherwydd y fannod cyn amgylchedd - ta ydw i'n colli arni?

 

Annes

 

2007/7/4, Puw, John <[log in to unmask]>:

Be fyddet ti'n ei roi am Wildlife Liaison and Environment Department felly?

 

Yr Adran Gyswllt Bywyd Gwyllt a'r Amgylchedd

Yr Adran Cyswllt Bywyd Gwyllt a'r Amgylchedd

 

 

 

John Puw

<image001.gif>


Uned Gyfieithu/Translation Unit
Ffôn/Tel: 01492 510935
Mewnol/Internal: 6135
E-bost/E-mail: [log in to unmask]


Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto: [log in to unmask]] Ar ran Berwyn Jones
Anfonwyd/Sent: 04 Gorffennaf 2007 16:33
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: uned cyfieithu/yr uned gyfieithu

 

Byddwn i'n cynnwys y fannod ac yn treiglo. Fe all mai un o achosion y dryswch yw bod y genidol yn ymddangos yn y ffurf Saesneg (h.y. Department of Mathematics).

 

Peidio â threiglo mewn cyfuniadau sy'n digwydd ar ôl enwau benywaidd yw'r 'rheol' , h.y. 'Yr Adran Ddiwydiant' ond 'Yr Adran Diwydiant a Marchnata'.

Berwyn

----- Original Message -----

From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">Osian Rhys

To: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">[log in to unmask]

Sent: Wednesday, July 04, 2007 4:22 PM

Subject: uned cyfieithu/yr uned gyfieithu

 

Annwyl Gyfeillion,

Un peth sydd wedi bod yn fy nhrwblu i a'm cydweithwraig yn ddiweddar yw lle'r fannod a threiglad meddal mewn enwau adrannau ac ati. Rydym yn ceisio cyfieithu a diweddaru enwau'r adrannau yn un rhes felly mae anghysondebau rhwng gwaith gwahanol gyfieithwyr nawr ac ar wahanol adegau wedi dod i'r amlwg. Sôn amdanyn nhw fel teitlau'r adrannau ydw, a hynny ar gardiau busnes yr holl sefydliad, felly nawr yw'r amser i'w cael nhw'n iawn ac fe hoffem gael rhyw gymaint o gysondeb os oes modd. Falle y bydde'n well i fi roi enghreifftiau:

Yr Adran Farchnata
Adran Farchnata
Adran Marchnata

Y Swyddfa Ryngwladol
Swyddfa Ryngwladol
Swyddfa Rhyngwladol

Yr Adran Fathemateg
Adran Fathemateg
Adran Mathemateg

Dw i'n rhyw deimlo bod y cyntaf yn yr enghreifftiau uchod yn swnio'n fwy Cymreig a naturiol, ond dw i hefyd yn credu bod tuedd gynyddol i ddefnyddio'r trydydd ( h.y. dim bannod na threiglo). Ydy hynny'n wir?

Beth yw eich barn chi? Falle mod i'n anghywir, ond os cofia i'n iawn, pan ddechreuais i gyfieithu roedd uwch gyfieithwyr yn tueddu i gywiro fy ngwaith i gan roi'r ffurf gysefin mewn enghreifftiau tebyg i'r uchod, lle ro'n i wedi treiglo. Beth yw'r rheswm am hynny?

Esgusodwch fy anwybodaeth a diolch am eich help.

Osian.


No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.5.476 / Virus Database: 269.9.14/885 - Release Date: 03/07/2007 10:02

 


Ni ddylid trin e-bost ar y rhyngrwyd fel dull diogel o gyfathrebu.  Mae Heddlu Gogledd Cymru yn monitro'r holl negeseuon e-bost a drosglwyddir ar y rhyngrwyd yn ogystal â'u cynnwys.

Dim ond er sylw'r sawl y'i cyfeiriwyd hi ato/ati y bwriedir y neges hon.  Os ydych yn derbyn y neges hon mewn camgymeriad, gadewch i'r sawl a'i gyrrodd wybod a dilëwch hi oddi ar eich system.   Gall defnyddio neu ddatgelu cynnwys y neges hon heb ganiatâd fod yn anghyfreithlon. Efallai nad yw'r farn a fynegir yn y ddogfen yn bolisi swyddogol.  Diolch i chi am eich cydweithrediad.   

Heddlu Gogledd Cymru

Internet e-mail is not to be treated as a secure means of communication.  North Wales Police monitor all Internet e-mail activity and content.

This communication is intended for the addressee(s) only.  Please notify the sender if received in error and erase from your system.  Unauthorised use or disclosure of the content may be unlawful, Opinions expressed in this document may not be official policy.  Thank you for your co-operation.

North Wales Police

 

 


Ni ddylid trin e-bost ar y rhyngrwyd fel dull diogel o gyfathrebu.  Mae Heddlu Gogledd Cymru yn monitro'r holl negeseuon e-bost a drosglwyddir ar y rhyngrwyd yn ogystal â'u cynnwys.

Dim ond er sylw'r sawl y'i cyfeiriwyd hi ato/ati y bwriedir y neges hon.  Os ydych yn derbyn y neges hon mewn camgymeriad, gadewch i'r sawl a'i gyrrodd wybod a dilëwch hi oddi ar eich system.   Gall defnyddio neu ddatgelu cynnwys y neges hon heb ganiatâd fod yn anghyfreithlon. Efallai nad yw'r farn a fynegir yn y ddogfen yn bolisi swyddogol.  Diolch i chi am eich cydweithrediad.   

Heddlu Gogledd Cymru

Internet e-mail is not to be treated as a secure means of communication.  North Wales Police monitor all Internet e-mail activity and content.

This communication is intended for the addressee(s) only.  Please notify the sender if received in error and erase from your system.  Unauthorised use or disclosure of the content may be unlawful, Opinions expressed in this document may not be official policy.  Thank you for your co-operation.

North Wales Police

 

 

 

 




No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition. 
Version: 7.5.476 / Virus Database: 269.10.0/886 - Release Date: 04/07/2007 13:40