Print

Print


Aha!
Mae mater y fannod mewn penawdau wedi codi yma'n ddiweddar.  Roeddwn  
i wedi cyfieithu pennawd "Background" fel "Y Cefndir" a dyma "our  
Welsh-speaker in the office" yn fy nhaclo a dweud nad "The  
Background" oedd yn y Saesneg - yr awgrym oedd mod i'n ceisio chwyddo  
nifer y geiriau gan fy mod i'n cael fy nhalu fesul gair i'r iaith  
darged (arferiad sy'n prinhau, dw i'n meddwl).

Un mater bach arall am y fannod, ychydig oddi ar y pwnc - Mae'n  
ymddangos bod y penderfyniad od i ailfrandio Plaid Cymru fel "Plaid"  
yn cael effaith ar fudiadau eraill. Dyma bennawd mewn datganiad gan  
Gymdeithas yr Iaith:
"CYMDEITHAS YN GWRTHOD CANLYNIAD AROLWG Y BBC".  Gobeithio mai dim  
ond diffyg lle sy'n gyfrifol.

Pwynt bach arall oddi ar y pwnc - Roedd Berwyn yn sôn am wahaniaethau  
De/Gogledd.  Ffoniodd darpar-gwsmer dierth yn ddiweddar wedi cael fy  
enw o restr y Gymdeithas Cyfieithwyr (neu Gymdeithas y Cyfieithwyr!)  
a dweud "I chose you because you're in North Wales. I've been advised  
to avoid translators from South Wales as their Welsh isn't very good."
"E feri wais disishyn on ior part," medde fi yn fy acen Trefor orau!

Reit - gwaith!

Hwyl
Siân

On 6 Jul 2007, at 07:35, Berwyn Jones wrote:

> Ga i gywiro un gosodiad gan Rhisiart, sef:
>
> er y dywedir yn naturiol y swyddfa bost ..., swyddfa’r post ...  
> sydd fwyaf derbyniol yn ysgrifenedig.
>
> Osa ca i ailadrodd neges a anfonais i w-t-c drwy Magi yn 2001, nid  
> dyna'r gwir:
>
> "efallai y dylwn esbonio mai 'Swyddfa'r Post' yw'r cyfieithiad o  
> 'Post Office' fel enw'r gorfforaeth ... a 'swyddfa bost' yw'r enw  
> ar y swyddfa unigol. Mae'n debyg mai anghytundeb rhwng rhyw  
> Ddeheuwr a Gogleddwr (Thomas Parry ?) sy'n gyfrifol am greu dau enw  
> yn lle un!"
>
> Pwynt arall yw mater y fannod mewn teitlau. Sylwoch chi fod 'Y  
> Bwrdd Iaith', yn hytrach na 'Bwrdd yr Iaith', yn dalfyriad  
> cyffredin ar y teitl llawn, sef 'Bwrdd yr Iaith Gymraeg', a hynny,  
> mae'n debyg, dan ddylanwad tuedd gogleddwyr (yn ôl Dr Enid Pierce  
> Roberts) i ddweud pethau fel 'y neuadd bentre' yn hytrach na  
> 'neuadd y pentre'?
>
> Bydd mater y fannod hefyd yn codi mewn penawdau. 'Context' medd  
> pennawd yn y Saesneg. 'Cyd-destun', medd y cyfieithydd. Ond nid 'A  
> Context' yw'r pennawd Saesneg. Oni ddylen ni felly roi 'Y Cyd- 
> destun', 'Y Cynnwys' ac ati yn ein cyfieithiadau (ac ym mhobman  
> arall)?
>
> Hollti blew? Digon posib!
>
> Berwyn
>
> ----- Original Message -----
> From: Matthew Clubb
> To: [log in to unmask]
> Sent: Thursday, July 05, 2007 11:15 AM
> Subject: ATB: uned cyfieithu/yr uned gyfieithu
>
> Efallai y bydd yr esboniadau isod yn ddefnyddiol. Dyma'r nodiadau y  
> bydd Rhisiart Hincks yn eu defnyddio yn ei ddosbarthiadau iaith. (A  
> diolch i Rhisiart am ei ganiatâd imi ddyfynnu'r canllawiau hyn):
>
> "1.         Rheol ddigon cyfarwydd yw fod yn rhaid treiglo  
> ansoddair sy’n dilyn enw benywaidd unigol, e.e. siop fach,  
> cymdeithas gref, gwraig lawen, a gwyddys hefyd y treiglir pob  
> ansoddair arall sy’n goleddfu’r un enw ac yn ei ddilyn, e.e.  
> siop fach gynnes, cymdeithas gref wledig, gwraig lawen ddi-hid; ond  
> cyfyd anawsterau pan gyfunir dau enw neu ddau enw ac ansoddair.
>
> 2.         Pan fydd enw’n dilyn enw arall dywedir bod yr ail enw  
> mewn perthynas enidol â’r cyntaf a chan amlaf erys yr ail enw’n  
> ddidreiglad yn y gystrawen hon, e.e. calon mam, merch brenin,  
> Prifysgol Cymru, rhestr llyfrau. Yn achos rhai cyfuniadau, fodd  
> bynnag, ystyrir mai swyddogaeth ansoddeiriol sydd gan yr ail enw ac  
> fe’i treiglir fel pe bai’n ansoddair, e.e. siop lyfrau, ysgol  
> fabanod, tref farchnad.
>
> 3.         Gall pennu’r ffin rhwng y ddau ddosbarth hyn fod yn  
> ddigon dyrys, a hawdd y gellid dadlau fod rhestr lyfrau yr un mor  
> dderbyniol â rhestr llyfrau. Tuedd yr iaith lafar yw troi’r ail  
> enw’n ansoddeiriol lle nas ystyrir felly yn llenyddol, ac er y  
> dywedir yn naturiol y swyddfa bost, yr Adran Ddrama, yr Adran  
> Gymraeg etc., swyddfa’r post, Adran Drama, Adran y Gymraeg sydd  
> fwyaf derbyniol yn ysgrifenedig. Os dymunir bod yn fwy penodol,  
> fodd bynnag, a sôn am deip arbennig o ‘swyddfa’ neu ‘adran’  
> etc., neu am un lle penodol, y mae’n rhaid arfer y gystrawen  
> gyntaf, e.e. yn y swyddfa bost leol, mewn adran ddrama well, yn yr  
> adran Gymraeg hynaf.
>
> 4.         Dyma rai enghreifftiau eraill lle y ceir cyfuniad o ddau  
> enw, a lle y mae swyddogaeth ansoddeiriol i’r ail enw:
>
>             1.         siop fwyd
>             2.         cystadleuaeth ddrama
>             3.         adran lawysgrifau
>             4.         stondin lyfrau
>             5.         Amgueddfa Lechi Cymru
>             6.         ffatri geir
>
>             Os ychwanegir ansoddair sy’n goleddfu’r ail enw yna  
> peidia’r ail enw â bod yn ansoddeiriol, ac ni chaiff ei dreiglo:
>
>             1.         siop bwydydd iach (Awgrymai siop fwydydd  
> iach fod y siop yn hytrach na’r bwydydd yn iach.)
>             2.         cystadleuaeth dramâu byrion
>             3.         adran llawysgrifau diweddar
>             4.         stondin llyfrau ail-law
>             5.         Amgueddfa Bywyd Gwyllt Cymru
>             6.         ffatri prosesu bwyd
>
>             cf.        effaith tŷ gwydr
>                         siop llyfrau Cymraeg
>                         llenyddiaeth Cymraeg Canol
>
>             Gellir cyferbynnu effaith tŷ gwydr, lle y mae’r tŷ  
> yn wydr, â photel laeth wag lle y mae’r botel yn wag. Eithriad  
> amlwg i’r hyn a ddisgwylir pan geir enw + enw + ans. yn  
> goleddfu’r ail enw yw:
>
>                         potel ddŵr poeth (Disgrifio’r dŵr a  
> wna ‘poeth’ ond cymerir bod ‘dŵr poeth’
>                                                                  yn  
> ansoddeiriol ac nid yn enidol.)"
>
>
>
> Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology  
> and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran  
> David Bullock
> Anfonwyd/Sent: 05 July 2007 09:46
> At/To: [log in to unmask]
> Pwnc/Subject: uned cyfieithu/yr uned gyfieithu
>
> Ac eto i gyd, mewn cyfnod pan nad oes gan y rhan fwya o bobl glust  
> at bethau fel hyn, mae arnon ni angen esboniad.
>
>
>
> Rhaid i’r esboniad (neu’r “rheol” os mynnwch chi) ddangos  
> pam mae “Prifysgol Cymru” ar y naill law ac “Adran  
> Gynllunio” ar y llaw arall yn swnio’n iawn a hefyd yn gywir o  
> ran eu cystrawen.
>
>
>
> Beth am rywbeth fel hyn fel man cychwyn:
>
>
>
> 1.       Mae’n hawdd credu bod y Brifysgol dan sylw yn perthyn i  
> Gymru. Defnyddiwch y gair “genidol” os yw hynny’n helpu, a  
> pheidiwch â threiglo.
>
>
>
> 2.       Mae’n hawdd credu hefyd mai ymwneud â chynllunio mae’r  
> adran dan sylw: dyw’r adran ddim yn perthyn i gynllunio.  
> Defnyddiwch y gair “ansoddeiriol” os yw hynny’n helpu, a  
> threiglwch.
>
>
>
>
>
> David
>
> Mae cronfa Ras Tŷ Hafan ar agor am ychydig ddyddiau eto os hoffech  
> chi helpu'r hosbis plant. http://www.justgiving.com/davidmbullock
>
> My sponsorship page for Tŷ Hafan children's hospice is open to new  
> supporters for just a few more days.
>
>
>
> Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology  
> and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran  
> Gorwel Roberts
> Anfonwyd/Sent: 05 July 2007 09:20
> At/To: [log in to unmask]
> Pwnc/Subject: Re: ATB: uned cyfieithu/yr uned gyfieithu
>
>
>
> Mae modd dadlau dros Adran Cynllunio ond mae’n swnio’n chwithig  
> iawn i’r glust ac mae’n bwysig i bethau swnio’n naturiol beth  
> bynnag fo’r dadleuon gramadegol
>
>
>
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and  
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf  
> Of Siân Roberts
> Sent: 05 July 2007 08:58
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: ATB: uned cyfieithu/yr uned gyfieithu
>
>
>
> Hyd y gwela i, mae/roedd  "Yr Adran Gynllunio" ac "Yr Adran  
> Cynllunio" yn cael eu defnyddio gan gynghorau ac ati ac mae modd  
> dadlau dros y naill a'r llall.
>
>
>
> Siân
>
> On 5 Jul 2007, at 08:42, annes gruffydd wrote:
>
>
>
> Diolch, Geraint. Mae'n un o'r petha na (fath a dysgu a dallt y  
> gwahaniaeth rhwng gerund a gerundive yn Lladin stalwm) dwi  
> weithia'n ei ddallt yn iawn (a dwi'n gwbod be ydi'r rheswm dros  
> dreiglo ne beidio) ond o bryd i'w gilydd ma hi'n anodd gwbod prun  
> ta ansoddeiriol ta genidol ydi'r bali peth wedyn mae hi'n mynd yn  
> nos arna i. Dal i gredu.
>
>
>
> Annes
>
>
>
> 2007/7/4, Geraint Løvgreen <[log in to unmask]>:
>
> Dwi ddim yn gwybod, Annes - dim ond gwybod hyn yn reddfol ydw i -
>
>
>
> Yr Adran Gyswllt neu Adran Gyswllt y Cynulliad Cenedlaethol  
> (ansoddeiriol)
>
> OND
>
> Adran Cyswllt Bywyd Gwyllt a'r Amgylchedd / Adran Cyswllt Plant â'u  
> Rhieni (Genidol)
>
>
>
> felly hefyd: Yr Uned Gyfieithu / Uned Gyfieithu'r Sir (ansoddeiriol)
>
> OND
>
> Uned Cyfieithu'r Beibl (genidol)
>
>
>
> h.y. mae Uned Gyfieithu'r Sir yn uned gyfieithu sy'n perthyn i'r  
> Sir, ond mae Uned Cyfieithu'r Beibl yn uned sy'n ymwneud â  
> chyfieithu'r Beibl (yn hytrach na bod yn uned gyfieithu sy'n  
> ymwneud â'r Beibl).
>
>
>
> Dallt? Sori, mae'n glir fel mwd dydi.
>
>
>
> Geraint
>
> ----- Original Message -----
>
> From: annes gruffydd
>
> To: [log in to unmask]
>
> Sent: Wednesday, July 04, 2007 8:13 PM
>
> Subject: Re: ATB: uned cyfieithu/yr uned gyfieithu
>
>
>
>
> Diolch, Geraint - weithia ma hi'n anodd drybeilig gwbod prun sy'n  
> enidol a phrun sy'n ansoddeiriol. Dwi fel swn i'n cofio trafodaeth  
> o'r blaen ar y pwnc yma. Jyst o ran myrrath pam mae cyswllt yn  
> enidol yn y cyd-detun yma?? A sut gwyddost ti??! Sorri, dwi wedi  
> blino braidd a ga i ddrwg gin Delyth toc ond mi fasa canllawia eto  
> ar yr arswydus genidol ac ansoddeiriol yn gaffaeliad.
>
>
>
> Annes
>
>
>
> 2007/7/4, Geraint Løvgreen <[log in to unmask]>:
>
> Ie, ond heb dreiglo 'Cyswllt', achos mai genidol ydio yn y cyd- 
> destun yma.
>
>
>
> Geraint
>
> ----- Original Message -----
>
> From: annes gruffydd
>
> To: [log in to unmask]
>
> Sent: Wednesday, July 04, 2007 5:50 PM
>
> Subject: Re: ATB: uned cyfieithu/yr uned gyfieithu
>
>
>
>
> I fwydro petha ymhellach faswn i'n deud Adran Gyswllt Bywyd Gwyllt  
> a'r Amgylchedd heb y fannod ar y dechra oherwydd y fannod cyn  
> amgylchedd - ta ydw i'n colli arni?
>
>
>
> Annes
>
>
>
> 2007/7/4, Puw, John <[log in to unmask]>:
>
> Be fyddet ti'n ei roi am Wildlife Liaison and Environment  
> Department felly?
>
>
>
> Yr Adran Gyswllt Bywyd Gwyllt a'r Amgylchedd
>
> Yr Adran Cyswllt Bywyd Gwyllt a'r Amgylchedd
>
>
>
>
>
>
>
> John Puw
>
> <image001.gif>
>
>
> Uned Gyfieithu/Translation Unit
> Ffôn/Tel: 01492 510935
> Mewnol/Internal: 6135
> E-bost/E-mail: [log in to unmask]
>
> Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology  
> and vocabulary [mailto: [log in to unmask]] Ar ran  
> Berwyn Jones
> Anfonwyd/Sent: 04 Gorffennaf 2007 16:33
> At/To: [log in to unmask]
> Pwnc/Subject: Re: uned cyfieithu/yr uned gyfieithu
>
>
>
> Byddwn i'n cynnwys y fannod ac yn treiglo. Fe all mai un o achosion  
> y dryswch yw bod y genidol yn ymddangos yn y ffurf Saesneg (h.y.  
> Department of Mathematics).
>
>
>
> Peidio â threiglo mewn cyfuniadau sy'n digwydd ar ôl enwau  
> benywaidd yw'r 'rheol' , h.y. 'Yr Adran Ddiwydiant' ond 'Yr Adran  
> Diwydiant a Marchnata'.
>
> Berwyn
>
> ----- Original Message -----
>
> From: Osian Rhys
>
> To: [log in to unmask]
>
> Sent: Wednesday, July 04, 2007 4:22 PM
>
> Subject: uned cyfieithu/yr uned gyfieithu
>
>
>
> Annwyl Gyfeillion,
>
> Un peth sydd wedi bod yn fy nhrwblu i a'm cydweithwraig yn  
> ddiweddar yw lle'r fannod a threiglad meddal mewn enwau adrannau ac  
> ati. Rydym yn ceisio cyfieithu a diweddaru enwau'r adrannau yn un  
> rhes felly mae anghysondebau rhwng gwaith gwahanol gyfieithwyr nawr  
> ac ar wahanol adegau wedi dod i'r amlwg. Sôn amdanyn nhw fel  
> teitlau'r adrannau ydw, a hynny ar gardiau busnes yr holl  
> sefydliad, felly nawr yw'r amser i'w cael nhw'n iawn ac fe hoffem  
> gael rhyw gymaint o gysondeb os oes modd. Falle y bydde'n well i fi  
> roi enghreifftiau:
>
> Yr Adran Farchnata
> Adran Farchnata
> Adran Marchnata
>
> Y Swyddfa Ryngwladol
> Swyddfa Ryngwladol
> Swyddfa Rhyngwladol
>
> Yr Adran Fathemateg
> Adran Fathemateg
> Adran Mathemateg
>
> Dw i'n rhyw deimlo bod y cyntaf yn yr enghreifftiau uchod yn  
> swnio'n fwy Cymreig a naturiol, ond dw i hefyd yn credu bod tuedd  
> gynyddol i ddefnyddio'r trydydd ( h.y. dim bannod na threiglo). Ydy  
> hynny'n wir?
>
> Beth yw eich barn chi? Falle mod i'n anghywir, ond os cofia i'n  
> iawn, pan ddechreuais i gyfieithu roedd uwch gyfieithwyr yn tueddu  
> i gywiro fy ngwaith i gan roi'r ffurf gysefin mewn enghreifftiau  
> tebyg i'r uchod, lle ro'n i wedi treiglo. Beth yw'r rheswm am hynny?
>
> Esgusodwch fy anwybodaeth a diolch am eich help.
>
> Osian.
>
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG Free Edition.
> Version: 7.5.476 / Virus Database: 269.9.14/885 - Release Date:  
> 03/07/2007 10:02
>
>
>
>
> Ni ddylid trin e-bost ar y rhyngrwyd fel dull diogel o gyfathrebu.   
> Mae Heddlu Gogledd Cymru yn monitro'r holl negeseuon e-bost a  
> drosglwyddir ar y rhyngrwyd yn ogystal â'u cynnwys.
>
> Dim ond er sylw'r sawl y'i cyfeiriwyd hi ato/ati y bwriedir y neges  
> hon.  Os ydych yn derbyn y neges hon mewn camgymeriad, gadewch i'r  
> sawl a'i gyrrodd wybod a dilëwch hi oddi ar eich system.   Gall  
> defnyddio neu ddatgelu cynnwys y neges hon heb ganiatâd fod yn  
> anghyfreithlon. Efallai nad yw'r farn a fynegir yn y ddogfen yn  
> bolisi swyddogol.  Diolch i chi am eich cydweithrediad.
>
> Heddlu Gogledd Cymru
>
> Internet e-mail is not to be treated as a secure means of  
> communication.  North Wales Police monitor all Internet e-mail  
> activity and content.
>
> This communication is intended for the addressee(s) only.  Please  
> notify the sender if received in error and erase from your system.   
> Unauthorised use or disclosure of the content may be unlawful,  
> Opinions expressed in this document may not be official policy.   
> Thank you for your co-operation.
>
> North Wales Police
>
>
>
>
>
>
> Ni ddylid trin e-bost ar y rhyngrwyd fel dull diogel o gyfathrebu.   
> Mae Heddlu Gogledd Cymru yn monitro'r holl negeseuon e-bost a  
> drosglwyddir ar y rhyngrwyd yn ogystal â'u cynnwys.
>
> Dim ond er sylw'r sawl y'i cyfeiriwyd hi ato/ati y bwriedir y neges  
> hon.  Os ydych yn derbyn y neges hon mewn camgymeriad, gadewch i'r  
> sawl a'i gyrrodd wybod a dilëwch hi oddi ar eich system.   Gall  
> defnyddio neu ddatgelu cynnwys y neges hon heb ganiatâd fod yn  
> anghyfreithlon. Efallai nad yw'r farn a fynegir yn y ddogfen yn  
> bolisi swyddogol.  Diolch i chi am eich cydweithrediad.
>
> Heddlu Gogledd Cymru
>
> Internet e-mail is not to be treated as a secure means of  
> communication.  North Wales Police monitor all Internet e-mail  
> activity and content.
>
> This communication is intended for the addressee(s) only.  Please  
> notify the sender if received in error and erase from your system.   
> Unauthorised use or disclosure of the content may be unlawful,  
> Opinions expressed in this document may not be official policy.   
> Thank you for your co-operation.
>
> North Wales Police
>
>
>
>
>
>
>
>
>
>
>
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG Free Edition.
> Version: 7.5.476 / Virus Database: 269.10.0/886 - Release Date:  
> 04/07/2007 13:40
>