Gwych. Ond ydy'r dyfyniad yn hollol gywir, Ann, gyda chwe sill yn y llinell gynta ac 8 yn yr ail? Mary _____ From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett Sent: 17 July 2007 12:15 To: [log in to unmask] Subject: Cyfieithu pennawdau - enghraifft penigamp Cefais ganiatad ers talwm i gyhoeddi'r enghraifft hon o arfer da gan Ieuan Wyn, ac 'rwyf newydd ddod ar ei thraws eto mewn pentwr o bapurau. Yn y dosbarth cyfieithu, 'roedd gennym erthygl ynghylch dyfeisiadau uwchsonig a oedd i fod i gadw llamhidyddion draw oddi wrth gwaith a fyddai'n eu peryglu. Y pennawd Saesneg oedd "Ultrasound warning serves its porpoise". Cynnig Ieuan Wyn oedd "Lle mae hidio am y llamhidydd". Wedyn, ychwanegodd: "Tonfeydd main eu sain sydd yn hidio am y llamhidydd" Ann -- This message has been scanned for viruses and dangerous content by <http://www.saq.co.uk/> SpamAlizer, and is believed to be clean.