Er bod "dyfyrio" yn dod o "difrïo", dydi'r ystyr ddim yn union yr un peth. Mae "difrïo" yn ferf anghyflawn - hynny yw, mae'n rhaid i chi ddifrïo rhywun neu rywbeth ond fe allwch chi ddyfyrio'n gyffredinol. "Wel, o'dd hi'n dyfyrio!" I mi, mae difrïo'n golygu sarhau neu ddilorni ond mae dyfyrio yn golygu rhefru, tantro neu fwrw drwyddi.