Rho Eiriadur y Brifysgol nôl ar y silff, Pawl.

"Ffêc Tan, Rissole a Tships" yw enw'r llyfr.
"Nofel i ddarllenwyr yn ei harddegau yn ymwneud â byd rhyfedd un merch sydd wrth ei bodd yn gwisgo lliw haul ffug, gwneud sudoku a mwynhau uwchben siop sglodion!"

Dw i ddim yn hollol siwr shwt mae rhywun yn "mwynhau uwchben siop sglodion" ond nid dyna'r broblem ar hyn o bryd.

Hwyl
Siân

On 22 Jun 2007, at 00:00, Pawl wrote:

Ai term amaethyddol sydd yma? Efallai mai 'ffeg' ydy'r gair (porfa fras a adawyd i wywo ar ei draed GPC). Ai tan sydd yma ynte tân? Gwair hir sy'n tyfu ar ôl llosgi? Mae ffurfiau fel gwair twn ar gael (hay from dry arable land GPC) neu (g)wair ton (hay from lay-land GPC).
 A thina'r meddilie sy'n dwad ichi/pan foch chi'n ishte uwchben....Geiriadur y Brifysgol!
Pawl.
Paul W. Birt, PhD
Chaire d'Études celtiques,
Université d'Ottawa,
70, rue Laurier,(131)
Ottawa, 
K1N 6N5
Ontario
Canada   
www.modernlanguages.uottawa.ca/celtic.html
Tél. (613)562-5800(3767)
Téléc/Fax (613)562-5138.


-----Original Message-----
From: Siân Roberts <[log in to unmask]>
Date:         Fri, 22 Jun 2007 18:25:54 
To:[log in to unmask]
Subject: Re: Caryl Lewis

Fake Tan?

Hwyl
Siân
On 22 Jun 2007, at 17:27, Sion Williams wrote:

Annwyl gyfeillion,

Rhywbeth dipyn yn bach yn wahanol i'r arfer, os all rhywun fy helpu os
gwelwch yn dda. Beth yw ystyr yr ymadrodd "Ffec Tan" yn llyfr Caryl  
Lewis
o'r un enw? A oes modd cyfieithu hyn i'r Saesneg?

Mawr ddiolch,

Sion R Williams

Prifysgol Gatholig Ioan Pawl II, Lublin, Gwlad Pwyl.