Dylid arfer yr amhersonol lle bynnag y barner yn briodol neu y teimler yn ddiffuant fod angen hynny. Tim Tim Saunders Cyfieithydd / Translator Uned Cyfieithu Cyngor Rhondda Cynon Taf / Rhondda Cynon Taf Council Translation Unit Ty Trevithick Abercynon Rhondda Cynon Taf CF45 4UQ Ffôn +44-(0)-1443-744000 Nid yw'r e-bost hwn nag unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef o angenrheidrwydd yn adlewyrchu barn Cyngor Rhondda Cynon Taf. Mae'r wybodaeth sydd yn y ddogfen hon yn gyfrinachol. Fe all fod yn gyfreithiol freintiedig. Bwriedir yr e-bost ar gyfer y person neu'r sefydliad a enwir uchod. Os derbyniwyd yr e-bost hwn trwy gamgymeriad, dylid hysbysu'r anfonydd a dileu'r e-bost oddi ar eich system os gwelwch yn dda. Os mai nid i chi y bwriadwyd ef ac nid chi yw'r cyflogwr na'r asiant sy'n gyfrifol am roi'r e-bost i'r derbynnydd bwriadedig, fe'ch hysbysir gan hyn na chaniateir i chi ddefnyddio, adolygu, lledaenu, dosbarthu na chopio'r e-bost ar unrhyw gyfrif. Fe all fod gwneud hynny yn anghyfreithlon. This e-mail and any files transmitted with it are not necessarily the view of Rhondda Cynon Taf Council. The information contained in this communication is confidential. It may be legally privileged. It is intended only for the person or entity named above. If you have received this e-mail in error please notify originator and erase this e-mail from your system. If you are not the intended recipient or the employer or agent responsible for delivering it to the intended recipient, you are hereby notified that any use, review, dissemination, distribution or copying of the e-mail is strictly prohibited. To do so may be unlawful. -----Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of [log in to unmask] Sent: 04 June 2007 14:52 To: [log in to unmask] Subject: Re: Defnydd o'r amhersonol yn hytrach na'r modd gweithredol Clywch! Clywch! Neges amserol iawn. magi ----- Original Message ----- From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Monday, June 04, 2007 12:38 PM Subject: Re: Defnydd o'r amhersonol yn hytrach na'r modd gweithredol Annwyl Sylvia, 'Rwy'n anfon copi o'r neges hon at [log in to unmask] hefyd. (Ysgrifennaf ynghylch meddalwedd 'nabod llais dan bennawd arall yn nes ymlaen). Onid yw plant i ddysgu pethau fel hyn yn yr ysgolion, neu hyd yn oed eu hamsugno o'u darllen? 'Rwyf wedi cael dadlau ynghylch hyn o'r blaen, a 'dw i'n siwr bod llawer o bobl yn fy ngweld i fel delfrydwr, neu fel bod o oes arall nad yw'n gwerthfawrogi'r sefyllfa yn ysgolion Cymry heddiw (a Bruce yn fwy felly byth). Mae'n debyg y teimlaf ei bod hi'n annheg fy mod i wedi treulio blynyddoedd o'm hoes yn ceisio mireinio fy Nghymraeg, dim ond i ddarganfod bod hyn mor amherthnasol ag y byddai i ddyn oes y cerrig ymfalchio yn ei dechneg gnapio fflint ar ol i bawb arall symud ymlaen at ddefnyddio efydd. Er hyn, caf yr argraff wrth ddysgu Cymraeg i oedolion bod pobl yn *hoffi* cael gwybod y rheolau. Nid yw rheolau gramadeg yn eich caethiwio, ond eich rhyddhau! Mae'n amlwg o waith bron pawb o'r plant 'ma, nid yn unig nad ydynt yn gwybod pryd i roi "ei + treiglad meddal", "ei + treiglad trwynol" neu "eu", ond 'does ganddynt ddim syniad o'r rheolau. Dydyn nhw ddim yn *gwneud camgymeriadau* fel y cyfryw, ond taflu'r naill air neu'r llall i mewn ar fenter, gan wybod bod 'na ryw wahaniaeth, ond heb wybod beth. Oni fydden nhw eu hunain yn hapusach o gael gwybod be' maen nhw'n wneud - a chan gweld sut mae defnyddio'r gair iawn yn ei le yn rhoi rhagor o wybodaeth fanwl ac yn osgoi dryswch. Gwn fod rhaid bod yn ofalus iawn ynghylch hyn, oherwydd ein cyfrifoldeb i'r cleientiaid uniongyrchol ac anuniongyrchol, ond teimlaf ein bod ni mewn sefyllfa da iawn i roi gwybod i'r rhai sy'n ymwneud ag addysg ynghylch lle mae anghenion rhagor o gymorth ar blant. A oes 'na rywun gyda throed yn y maes hwnnw'n medru awgrymu beth y gallem ei wneud? Ann ----- Original Message ----- From: "Jones,Sylvia Prys" <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Monday, June 04, 2007 11:42 AM Subject: Re: Defnydd o'r amhersonol yn hytrach na'r modd gweithredol Ann Corkett wrote: > > Erbyn hyn 'rwyf wedi casglu at ei gilydd y termau a drafodwyd yma, a rhai > o'm gwaith fy hun ar y papurau eleni a llynedd, ynghyd ag ychydig o > wefannau defnyddiol, a dyma nhw isod. Weithiau dim ond y Saesneg sydd > yno, gan fod y papurau gwreiddiol wedi mynd yn ol erbyn hyn, ond efallai > bydden nhw'n broc i feddwl rhywun arall. Mae'r sylwadau yn Saesneg, gan > fy mod i'n anfon copi at yr asiantaeth. Cofiwch neges Sylvia, a pheidiwch > a meddwl bod y "termau" Cymraeg i gyd yn dermau cynabyddedig - peidiwch a > defnyddio'r rhestr i gyfieithu i'r Saesneg! Cofiwch hefyd, nad oes gen i > bob amser gadarnhad bod y term Saesneg yn gyfieithiad cywir, dim ond ei > fod ar gael yn y maes ac yn ymddangos yn debyg o ran geiriad a > chyd-destun. Os mai dim ond cynnig ansicr yw cyfieithiad y term, dylid > gwneud hynny'n glir. > Pob hwyl, > Ann > > > Diddorol iawn Ann. Un peth sylwais i yn eich sylwadau chi oedd. The candidate occasionally uses the impersonal passive instead of the > active third person (e.g. “ni welwyd y cyfranogwyr y rhestr” – “the > participants the list were not seen”, instead of “ni welodd y > cyfranogwyr y rhestr …” – the participants did not see the list”). Fy mhrofiad i wrth gyfieithu gwaith myfyrwyr yn y brifysgol yw bod y mwyafrif ohonynt yn defnyddio'r amhersonol yn lle ffurf gryno'r gweithredol, yn enwedig yn y presennol. Wrth gyfieithu ar gyfer pobl ifanc felly tybed a ddylem defnyddio'r amhersonol o gwbl erbyn hyn gan nad ydynt i'w gweld yn ei ddeall yn iawn? Neu efallai fod hynny'n fwy o reswm dros ei ddefnyddio er mwyn iddyn nhw weld y defnydd cywir ohono? Rydw i'n ymwybodol nad ydyw hyn yn drafodaeth 'termau' fel y cyfryw felly a allai rhywun fy atgoffa beth yw cyfeiriad y cylch trafod arall? Yr un 'cyffredinol'? Mae gen i awydd eich holi chi Ann am eich profiad o ddefnyddio meddalwedd adnabod llais. Mae gen i Dragon Naturally Speaking 8 adref ond yn meddwl newid i rywbeth arall. Sylvia. -- Dr Sylvia Prys Jones 01248 382036 <[log in to unmask]> Uned Gyfieithu/Translation Unit Canolfan Bedwyr Prifysgol Cymru, Bangor/University of Wales, Bangor -- Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi, gynnwys deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig gan y sawl y cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y neges e-bost hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar unwaith a dilëwch y neges. Os na fwriadwyd anfon y neges atoch chi, rhaid i chi beidio â defnyddio, cadw neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i hanfonodd yn unig ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli barn Prifysgol Cymru, Bangor. Nid yw Prifysgol Cymru, Bangor yn gwarantu bod y neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu 100% yn ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn nhestun yr e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract rhwymol - mae rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa Cyllid Prifysgol Cymru, Bangor. www.bangor.ac.uk This email and any attachments may contain confidential material and is solely for the use of the intended recipient(s). If you have received this email in error, please notify the sender immediately and delete this email. If you are not the intended recipient(s), you must not use, retain or disclose any information contained in this email. Any views or opinions are solely those of the sender and do not necessarily represent those of the University of Wales, Bangor. The University of Wales, Bangor does not guarantee that this email or any attachments are free from viruses or 100% secure. Unless expressly stated in the body of the text of the email, this email is not intended to form a binding contract - a list of authorised signatories is available from the University of Wales, Bangor Finance Office. www.bangor.ac.uk -- No virus found in this incoming message. Checked by AVG Free Edition. Version: 7.5.472 / Virus Database: 269.8.7/830 - Release Date: 03/06/2007 12:47 __________ NOD32 2306 (20070604) Information __________ This message was checked by NOD32 antivirus system. http://www.eset.com