Unrhyw help, plis? Aronia yw'r enw ar y ffrwyth Americanaidd hwn. Methu ffeindio dim yn yr archif na Llen y Llysiau (efallai mai fi sydd ar fai, 'mhen i wedi ei fwydro gan y papurau Secioleg sy'n bla ar gymaint o aelodau'r Cylch!). Dwi'n gyndyn o'i gyfieithu fel "aeron tagu" gan y buasai hynny yn rhy debyg i "eirin tagu". Ddiolchgar am unrhyw gymorth. Meg