----- Original Message -----From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Ann CorkettTo: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]Sent: Thursday, May 03, 2007 12:24 PMSubject: Termau archwilio - assuranceA oes 'na unrhyw un wedi dod ar draws cyfieithiadau swyddogol ar gyfer y termau a ddefnyddir wrth archwilio, neu hyd yn oed rhestr o'r holl ystod o dermau yn y Saesneg.Wrth gyfieithu cofnodion pwyllgor archwilio o dro i dro, dof ar draws cyfeiriadau at wahanol "levels of assurance" a, chan dilyn egwyddor Bruce o gadw pethau'n syml, rwyf yn arfer hepgor "lefel" yn "substantial level of assurance".Arferaf ddefnyddiosubstantial assurance sicrwydd sylweddolgood assurance sicrwydd dalimited assurance sicrwydd cyfyngedigsatisfactory assurance sicrwydd boddhaoladequate assurance sicrwydd digonol... ond gwelaf fod hyd yn oed cofnodion Pwyllgor Archwilio'r Cynulliad yn defnyddio "llwyr" a "pendant" ar gyfer "absolute assurance" yn yr un ddogfen!Wedyn, mae categoriau eraill megis "merits attention" - beth fyddai hynny? "angen sylw"? "yn haeddu sylw"?A oes 'na dermau eraill nad ydw i hyd yn oed wedi'u 'nabod fel termau eto?."merits attention" yw'r unig derm y mae unrhyw frys ar ei gyfer, ond os oes gan rywun ragor o wybodaeth ynghylch y pwnc, 'dw i'n siwr y byddai'n defnyddiol i eraill gael yr wybodaeth honno yn yr archif.Diolch yn fawr iawn,Ann
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.5.467 / Virus Database: 269.6.2/785 - Release Date: 02/05/2007 14:16