Print

Print


Twt, twt.  Gwell imi ddiwygio brawddeg gyntaf fy neges:
"A oes 'na unrhyw un sydd wedi dod ar draws cyfieithiadau swyddogol ar gyfer y termau a ddefnyddir wrth archwilio, neu hyd yn oed restr o'r holl ystod o dermau yn y Saesneg."
 
Ddrwg gen i,
 
Ann
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Ann Corkett
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Thursday, May 03, 2007 12:24 PM
Subject: Termau archwilio - assurance

A oes 'na unrhyw un wedi dod ar draws cyfieithiadau swyddogol ar gyfer y termau a ddefnyddir wrth archwilio, neu hyd yn oed rhestr o'r holl ystod o dermau yn y Saesneg.
 
Wrth gyfieithu cofnodion pwyllgor archwilio o dro i dro, dof ar draws cyfeiriadau at wahanol "levels of assurance" a, chan dilyn egwyddor Bruce o gadw pethau'n syml, rwyf yn arfer hepgor "lefel" yn "substantial level of assurance".
 
Arferaf ddefnyddio
substantial assurance    sicrwydd sylweddol
good assurance    sicrwydd da
limited assurance    sicrwydd cyfyngedig
satisfactory assurance    sicrwydd boddhaol
adequate assurance    sicrwydd digonol
 
... ond gwelaf fod hyd yn oed cofnodion Pwyllgor Archwilio'r Cynulliad yn defnyddio "llwyr" a "pendant" ar gyfer "absolute assurance" yn yr un ddogfen! 
 
Wedyn, mae categoriau eraill megis "merits attention" - beth fyddai hynny? "angen sylw"? "yn haeddu sylw"?
 
A oes 'na dermau eraill nad ydw i hyd yn oed wedi'u 'nabod fel termau eto?.
 
"merits attention" yw'r unig derm y mae unrhyw frys ar ei gyfer, ond os oes gan rywun ragor o wybodaeth ynghylch y pwnc, 'dw i'n siwr y byddai'n defnyddiol i eraill gael yr wybodaeth honno yn yr archif.
 
Diolch yn fawr iawn,
 
Ann


No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.5.467 / Virus Database: 269.6.2/785 - Release Date: 02/05/2007 14:16