A oes 'na unrhyw un wedi dod ar draws cyfieithiadau
swyddogol ar gyfer y termau a ddefnyddir wrth archwilio, neu hyd yn oed rhestr
o'r holl ystod o dermau yn y Saesneg.
Wrth gyfieithu cofnodion pwyllgor archwilio o dro i
dro, dof ar draws cyfeiriadau at wahanol "levels of assurance" a, chan dilyn
egwyddor Bruce o gadw pethau'n syml, rwyf yn arfer hepgor "lefel" yn
"substantial level of assurance".
Arferaf ddefnyddio
substantial assurance sicrwydd
sylweddol
good assurance sicrwydd
da
limited assurance sicrwydd
cyfyngedig
satisfactory assurance sicrwydd
boddhaol
adequate
assurance sicrwydd digonol
... ond gwelaf fod hyd yn oed cofnodion Pwyllgor
Archwilio'r Cynulliad yn defnyddio "llwyr" a "pendant" ar gyfer "absolute
assurance" yn yr un ddogfen!
Wedyn, mae categoriau eraill megis "merits
attention" - beth fyddai hynny? "angen sylw"? "yn haeddu sylw"?
A oes 'na dermau eraill nad ydw i hyd yn oed wedi'u
'nabod fel termau eto?.
"merits attention" yw'r unig derm y mae unrhyw frys
ar ei gyfer, ond os oes gan rywun ragor o wybodaeth ynghylch y pwnc, 'dw i'n
siwr y byddai'n defnyddiol i eraill gael yr wybodaeth honno yn yr
archif.
Diolch yn fawr iawn,
Ann