A oes 'na unrhyw un wedi dod ar draws cyfieithiadau swyddogol ar gyfer y termau a ddefnyddir wrth archwilio, neu hyd yn oed rhestr o'r holl ystod o dermau yn y Saesneg. Wrth gyfieithu cofnodion pwyllgor archwilio o dro i dro, dof ar draws cyfeiriadau at wahanol "levels of assurance" a, chan dilyn egwyddor Bruce o gadw pethau'n syml, rwyf yn arfer hepgor "lefel" yn "substantial level of assurance". Arferaf ddefnyddio substantial assurance sicrwydd sylweddol good assurance sicrwydd da limited assurance sicrwydd cyfyngedig satisfactory assurance sicrwydd boddhaol adequate assurance sicrwydd digonol ... ond gwelaf fod hyd yn oed cofnodion Pwyllgor Archwilio'r Cynulliad yn defnyddio "llwyr" a "pendant" ar gyfer "absolute assurance" yn yr un ddogfen! Wedyn, mae categoriau eraill megis "merits attention" - beth fyddai hynny? "angen sylw"? "yn haeddu sylw"? A oes 'na dermau eraill nad ydw i hyd yn oed wedi'u 'nabod fel termau eto?. "merits attention" yw'r unig derm y mae unrhyw frys ar ei gyfer, ond os oes gan rywun ragor o wybodaeth ynghylch y pwnc, 'dw i'n siwr y byddai'n defnyddiol i eraill gael yr wybodaeth honno yn yr archif. Diolch yn fawr iawn, Ann