Print

Print


Diddorol iawn y llynedd oedd rhoi rhai o'r papurau seicoleg a chymdeithaseg i fy merch hynaf i'w cyfieithu - 23 oed bryd hynny. Gan ei bod yn gynnyrch (cymharol ddiweddar) addysg Gymraeg roedd yn gallu darllen atebion y plant yn llawer rhwyddach na fi - och a gwae, roedd yr iaith garbwl yn hollol gyfarwydd iddi!! Efallai mai'r ateb yw mynnu bod pawb sy'n cyfieithu'r papurau hyn o dan 25 oed! (Blin ydw i am fy mod ar fin agor amlen Angela!!)
magi
  ----- Original Message ----- 
  From: Ann Corkett 
  To: [log in to unmask] 
  Sent: Wednesday, May 30, 2007 4:27 PM
  Subject: Re: term seicoleg


  Yn yr holl waith 'ma, rhaid cofio'ch bod yn cyfieithu Cymraeg plant sydd 
  yn aml wedi cyfieithu'r termau o'r Saesneg eu hunain - ddim bob amser yn 
  gywir.  Rhaid mynd i mewn i'w meddyliau, a hefyd edrych ar gynigion 
  "Cysgair", achos nad ydynt yn debyg o fod wedi mynd yn bell iawn i gael eu 
  cyfieithiadau.  Os ydych, fel fi, wedi cael rhai dogfennau yn Saesneg, 
  darllenwch nhw'n gyflym hefyd, yn y gobaith y defnyddir y termau cywir 
  ynddynt.

  Cofiwch mai "reliable" mai ystadegau'n debyg o fod, yn hytrach na 
  "dependable".

  'Ddrwg gen i os ydw i'n dysgu'r ddafad i bori, ond efallai bydd hyn o gymorth i eraill.

  Ann



  Cofiwch
    ----- Original Message ----- 
    From: Huw Garan 
    To: [log in to unmask] 
    Sent: Wednesday, May 30, 2007 3:20 PM
    Subject: ATB: term seicoleg


    Gwych, diolch yn fawr iawn.

    Hg




----------------------------------------------------------------------------
    Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Ann Corkett
    Anfonwyd/Sent: 30 May 2007 15:13
    At/To: [log in to unmask]
    Pwnc/Subject: Re: term seicoleg


    Annwyl Huw,

    Os ydych chi'n gwneud y gwaith i Angela, cofiwch anfon unrhyw gwestiynau fel hyn - a'r atebion terfynol - ati, fel y gall eu cylchredeg i'r gweddill ohonom.  Byddai ychydig o gyd-destun yn help, er mwyn sicrhau bod y cyfieithiad yn un cywir, ond gwelaf o http://en.wikipedia.org/wiki/Demand_characteristics fod In research, and particularly psychology, demand characteristics refers to a an experimental artifact where participants form an interpretation of the experiment's purpose and subconsciously change their behavior accordingly. 

    Dw i'n cymryd bod y rhain gennych:
    damcaniaeth - hypothesis, ar y cyfan, dw i'n amau yn hytrach na theory, gan 
    fod son am "damcaniaeth nwl" - "null hypothesis" hefyd.
    cyfranogwr (mewn arbrawf) - participant

    Dylid nodi hefyd fod 'na rywbeth o'r enw "opportunity sample" a 'dw i'n meddwl mai dyna beth yw "sampl cyfle", os dewch ar ei thraws, nid camgyfieithiad o "random sampl" - "sample ar hap", sy'n rhywbeth arall.

    Ann


      ----- Original Message ----- 
      From: Huw Garan 
      To: [log in to unmask] 
      Sent: Wednesday, May 30, 2007 2:49 PM
      Subject: term seicoleg


      Annwyl gyfeillion

      Ydy, mae'n dymor cyfieithu arholiadau uwnaith eto.  Oes rhywun wedi dod ar draws y term 'nodweddion hawlio' neu ryw derm tebyg o'r blaen?  Ai dyma'r term cywir?  St dylid ei gyfieithu i'r saesneg?

      Diolch yn fawr

      Hg


      No virus found in this outgoing message.
      Checked by AVG Free Edition.
      Version: 7.5.472 / Virus Database: 269.8.3/824 - Release Date: 29/05/2007 13:01




--------------------------------------------------------------------------


      No virus found in this incoming message.
      Checked by AVG Free Edition. 
      Version: 7.5.472 / Virus Database: 269.8.3/824 - Release Date: 29/05/2007 13:01



    No virus found in this incoming message.
    Checked by AVG Free Edition.
    Version: 7.5.472 / Virus Database: 269.8.3/824 - Release Date: 29/05/2007 13:01




    No virus found in this outgoing message.
    Checked by AVG Free Edition.
    Version: 7.5.472 / Virus Database: 269.8.3/824 - Release Date: 29/05/2007 13:01




----------------------------------------------------------------------------


    No virus found in this incoming message.
    Checked by AVG Free Edition. 
    Version: 7.5.472 / Virus Database: 269.8.3/824 - Release Date: 29/05/2007 13:01



  __________ NOD32 2301 (20070531) Information __________

  This message was checked by NOD32 antivirus system.
  http://www.eset.com