Dwi ddim yn gwybod, ond mae gen i ryw syniad efallai bod gan Gyngor Gwynedd 'Drysorlys'...
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Berwyn Jones
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Tuesday, April 10, 2007 1:16 PM
Subject: Re: exchequer

Hyd y gwela i, gellid defnyddio 'ariannol' yn y cyswllt hwn. Crandrwydd diangen yw 'exchequer', ac mae'n ddigon tebyg bod rhywun wedi tadogi ystyr arbennig arno.
 
Rwy' wedi gweld y ffurf 'siecr' mewn llyfrau hanes. Ceir cofnod ohono yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru (td. 3271) a'r ystyr a roir yw 'treasure, wealth, exchequer' ond gall hefyd olygu (yn Lambit-Opikaidd braidd) 'cheeky'.
 
Ai fi sy'n 'cheeky' wrth awgrymu mai crandrwydd diangen yw defnyddio 'exchequer' yn lle 'financial'?
 
Berwyn
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Post
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Tuesday, April 10, 2007 12:37 PM
Subject: exchequer

Ym myd cyllid/cyfrifeg.  I'w weld yn cael ei ddefnyddio yn bennaf gan wasanaethau cyhoeddus, yn enwedig cynghorau sir.  Nid Y Trysorlys yn Llundain sydd dan sylw; peth mewnol i'r sefydliadau yw e.
 
Dyma ddisgrifiad o Gyngor Sir Dyfnaint: "The Exchequer Services arm of Devon Finance Services provides invoice payment, income processing, debt recovery and VAT and Taxation services to all parts of the County Council."
 
Ac un o East Hampshire: "Exchequer Services: A team responsible for carrying out process oriented activities. The main tasks are coding and payment of all invoices (creditors), payroll, income collection (allocation of cash and maintenance of cash book), car loans, and overviewing the debtor recovery process."
 
gwasanaethau/tîm trysorlys? gwasanaethau/tîm trysorfa? Neu rywbeth arall?
 
Claire
 
 
 
Mae Pennawd Cyf yn gwmni cyfyngedig wedi'i gofrestru yng Nghymru a Lloegr o dan y rhif cofrestru 4276774, a chyfeiriad y swyddfa gofrestredig yw 53 Heol yr Orsaf, Ystum Taf, Caerdydd, CF14 2FB.
 
Pennawd Cyf is a limited company registered in England and Wales under the number 4276774, and the address of the registered office is 53 Station Road, Llandaff North, Cardiff, CF14 2FB.
 

--
No virus found in this outgoing message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.5.446 / Virus Database: 268.18.26/754 - Release Date: 09/04/2007 22:59


No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.5.446 / Virus Database: 269.0.0/754 - Release Date: 09/04/2007 22:59