Print

Print


Helo - oes 'na rywun yna ar ddydd gwyl fel hyn?

Yn ôl TermCymru a'r Termiadur, "tiwb pelydrau catod" yw "cathode ray tube".

Mae GyrA yn rhoi "tiwb pelydrau cathod" ac yn rhoi "cathod"/"cathodig" ar gyfer "cathode" mewn 
testunau eraill. "Cathod" a geir yn GPC hefyd.

Tybed ai symudiad bwriadol yw defnyddio "catod" i osgoi dryswch?
Ai "catod" yw'r ffurf a ddefnyddir fwyaf erbyn hyn?