Print

Print


Cyhyd ag y gallaf weld, a siaradaf yn f'anwybodaeth, defnyddid "footprint" ers talwm i olygu faint o dir/le y byddai e.e. adeilad, neu ddarn o offer swyddfa yn ei orchuddio (rhag ofn prynu argraffydd yn rhy fawr i'ch desg).  Mae'r gair wedi symud i fyd trafod yr amgylchedd i olygu faint o effaith mae rhywbeth yn ei gael.  Felly, mewn ffordd, mae'r ystyr wedi symud o "faint o rywbeth a ddefnyddir" i "faint o effaith a adewir". Mae'n gwneud imi feddwl am yr apel a wneir ar ymwelwyr ag ambell lle hardd i "take only pictures, leave only footprints."
 
Mwydro, mwydro ...
 
Ann
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Translation Unit
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Tuesday, April 03, 2007 10:49 AM
Subject: ATB: Carbon footprint

Diolch am yr ymateb diymdroi. Gobaith yr ail neges hon yw sbarduno trafodaeth (ac nid bod yn anniolchgar), ond rhyw ddyfalu oeddem ni a oedd rhywbeth arall heblaw 'ôl-troed ‘ yn gweddu yn y cyd-destun hwn. O ddadansoddi’r geiriau beth yn union yw ystyr 'ôl-troed carbon', gan ddychmygu cyfres o olion traed duon ar garped gwyn.

 

Yn wylaidd, ond yn heriol

 

Llyr

 


Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Berwyn Jones
Anfonwyd/Sent: 03 April 2007 10:18
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: Carbon footprint

 

Gan mai 'ôl-troed ecolegol' sydd gan Term Cymru am 'ecological footprint', mae'n debyg mai 'ôl-troed carbon' fyddai'r ymadrodd sy'n dilyn y patrwm hwnnw.

 

Berwyn

----- Original Message -----

From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Translation Unit

To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]

Sent: Tuesday, April 03, 2007 10:14 AM

Subject: Carbon footprint

 

Gan fod yr ymadrodd ‘carbon footprint’ i’w glywed yn feunyddiol bellach, tybed a oes cyfieithiad twt ar gael (cyn i bawb fynd i wahanol gyfeiriadau).

 

Diolch

 

Llyr (ar ran Uned Gyfieithu Cyngor Sir Caerfyrddin)


No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.5.446 / Virus Database: 268.18.25/744 - Release Date: 03/04/2007 05:32


No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.5.446 / Virus Database: 268.18.25/744 - Release Date: 03/04/2007 05:32