Neu “Ni
chaniateir dyfynnu na chyhoeddi heb
awdurdod” efallai?
Mae defnyddio “ceir” ac “ni
cheir” i gyfleu rhywbeth tebyg i “is permitted” ac “is
not permitted” bob amser yn codi amheuaeth yn fy meddwl i.
Os gwelwch chi’r frawddeg “Ceir
canu yn hwyr y nos yn nhafarn y pentre”, rwy’n credu y byddwch chi
fel arfer yn deall y peth fel hyn: “mae yna ganu yn hwyr y nos”, ac
nid “mae canu yn hwyr y nos yn cael ei ganiatáu”. Felly, y teimlad sy
gen i yw y gallai fod yn llai amwys pe baen ni’n dweud “Ni chaniateir
canu yn hwyr y nos”.
Ryw ddiwrnod, fe fydd rhyw holltwr blew yn
gweld arwydd i wahardd parcio ar ffurf y geiriau “Ni cheir parcio yma”.
Fe barciff yr holltwr blew ei gar dan yr arwydd, ac aros am y warden neu’r
plismon a’u herio nhw wedyn: “Ceir, fe geir parcio yma… ambell
waith beth bynnag. Fel y gwelwch chi, dwi newydd barcio yma fy hun!”
Oddi wrth/From:
Anfonwyd/Sent: 30 April 2007 09:27
At/To:
[log in to unmask]
Pwnc/Subject: ATB: not for
unauthorized quotation or publication
Ni cheir dyfynnu na chyhoeddi heb awdurdod?
Ni cheir ei ddyfynnu na'i gyhoeddi heb
awdurdod?
Meleri
Oddi wrth/From:
Anfonwyd/Sent: 30 April 2007 09:22
At/To:
[log in to unmask]
Pwnc/Subject: not for unauthorized
quotation or publication
Sori, munud wan - dwi'n teimlo'n affwysol o dwp bora ma a fedra i yn y
myw feddwl sut i ddeud hyn. Ar ei ben ei hun yn union fel hyn y mae'n ymddangos
uchod, yn dilyn teitl adroddiad.
Diolch ymlaen llaw
Annes
-------------------------------------------------------------
Mae'r e-bost hwn ac unrhyw atodiad iddo yn gyfrinachol ac fe'i bwriedir ar gyfer y sawl a enwir arno yn unig. Gall gynnwys gwybodaeth freintiedig. Os yw wedi eich cyrraedd trwy gamgymeriad ni ellwch ei gopio, ei ddosbarthu na'i ddangos i unrhyw un arall a dylech gysylltu a'r anfonwr ar unwaith.
Mae unrhyw gynnwys nad yw'n ymwneud a busnes swyddogol y corff sy'n anfon yr e-bost yn bersonol i'r awdur.
-------------------------------------------------------------
This email and any attachments are confidential and intended for the named recipient only. The content may contain privileged information. If it has reached you by mistake, you should not copy, distribute or show the content to anyone but should contact the sender at once.
Any content that is not pertinent to the official business of the organisation is personal to the author.
-------------------------------------------------------------
Arbedwch bapur, ynni ac arian - Peidiwch argraffu'r neges yma oni bai ei bod yn hollol angenrheidiol.
Save paper, energy and money - Do not print this message unless it is absolutely necessary.