Print

Print


'Sponsored' sydd yn y teitl a roddaist i dy neges, Claire, ond 'supported' rwyt ti'n ei drafod ... P'un o'r ddau sy'n dy boeni?
 
Sponsored - cynllun hyfforddi a noddir gan y Llywodraeth
Supported - cynllun hyfforddi a gynorthwyir gan y Llywodraeth
 
I mi, peth haniaethol yw cefnogaeth. Yn achos 'Government-supported scheme', yr ystyr gan amlaf yw bod y llywodraeth yn cyfrannu arian i'w gynorthwyo. Mae'r cymorth ariannol hwnnw'n arwydd o gefnogaeth y llywodraeth iddo.
 
Dyna pam y ceir yng Ngeiriadur Terminoleg Trefniadaeth y Cynulliad (y cyfeiriwyd ato mewn negeseuon eraill heddiw):
 
support (= backing) - cefnogaeth
ond
support (= financial assistance) cymorth.
 
Berwyn
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Post
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Monday, April 16, 2007 3:50 PM
Subject: government sponsored training scheme

Mae 380 o enghreifftiau o'r Saesneg yn y DU ar y Google, ac mae'n un o'r categorïau a ddefnyddir i ddynodi statws cyflogaeth pobl, ynghyd â phethau fel 'di-waith', 'gweithio amser llawn' ac ati.
 
Does dim byd ar TermCymru am "government supported".
 
Dwi ddim yn gwybod beth yw natur y "support".
 
Unrhyw gynigion.
 
Claire
 
Mae Pennawd Cyf yn gwmni cyfyngedig wedi'i gofrestru yng Nghymru a Lloegr o dan y rhif cofrestru 4276774, a chyfeiriad y swyddfa gofrestredig yw 53 Heol yr Orsaf, Ystum Taf, Caerdydd, CF14 2FB.
 
Pennawd Cyf is a limited company registered in England and Wales under the number 4276774, and the address of the registered office is 53 Station Road, Llandaff North, Cardiff, CF14 2FB.
 

--
No virus found in this outgoing message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.5.446 / Virus Database: 269.4.0/762 - Release Date: 15/04/2007 16:22


No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.5.446 / Virus Database: 269.4.0/762 - Release Date: 15/04/2007 16:22