Yng nghyd-destun gwneud gwaith adeiladu i'r 'rear elevation'. Mae Bruce yn rhoi 'cefnlun' ar gyfer hyn, ond yn nhermau pensaernïaeth a lluniau geometrig. Oes yna rywun yn gwybod be yn union ydi'r 'rear elevation'? Dwi'n amau mai nid at y cynllun mae'r ddogfen yn sôn, ond at y strwythur gwrthrychol ei hun, o gig a gwaed fel petai (neu frics a mortar). Ond eto, ella fy mod i'n anghywir ac mai'r unig gyd-destun posibl i 'rear elevation' ydi hwnnw sydd ar ddarluniau a chynlluniau?