Enwau Tir a Gwlad Melville Richards, td. 170:
 
'Llanfleiddan ger Y Bont-faen yw ffurf gywir yr enw a ysgrifennir weithiau yn Llanbleddian. Mae'r ffurfiau yn -b- yn ddyledus i gyndynrwydd y traddodiad ysgrifenedig, gan mai Llanfleiddan fyddai'r ynganiad naturiol. Ni wyddys dim am y sant, Bleiddan, a goffeir. Creadigaeth Iolo Morgannwg, mae'n debyg, yw'r ffurf Llanfleiddan Fawr'.
 
Dyw Gwynedd Pierce ddim yn cynnig esboniad o enw'r lle yn Place-names in Glamorgan.
 
Dyw'r ffurf 'Fach' ddim i'w gweld ar fap 1:25,000 yr Arolwg Ordnans o Gaerdydd a'r Fro, ond dros bont yr afon sy'n llifo heibio i Lanfleiddan mae clwstwr o dai. Fe all mai enw gwneud (ac answyddogol?) ar y clwstwr hwnnw yw 'Llanfleiddan Fach/Llanblethian Fach/Llanbleddian Fach'.
 
Berwyn
 
----- Original Message -----
From: "Geraint Løvgreen" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, March 08, 2007 4:01 PM
Subject: Re: Llanfleiddian Fach

Llanfleiddan (heb yr 'i' ola) ydi o yn y Rhestr Enwau Lleoedd.

Ond does dim sôn am Fawr na Bach.

----- Original Message -----
From: "Howard Huws" <
[log in to unmask]>
To: <
[log in to unmask]>
Sent: Thursday, March 08, 2007 3:30 PM
Subject: Llanfleiddian Fach


Enw lle ym Mro Morgannwg. Ceir Llanfleiddian Fawr ("Llanbleddian") ger y
Bont-faen, ond a oes Llanfleiddian Fach hefyd? Os oes, ymhle? Ai "St
Lythans" ger Caerdydd?

Gwerthfawrogir pob cymorth.



--
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.5.446 / Virus Database: 268.18.7/713 - Release Date: 07/03/2007 09:24