Diolch Mary. 'Coets' ddefnyddiais i yn y diwedd, er mai 'bys' (efo acen na fyddai'n ymddangos mae'n siw^r) fydd y côr yn galw'r cerbyd sy'n ein cario o le i le! (Ai bys 'ta coets gariodd ni ar draws y paith ddwy flynedd yn ôl tybed?) G Mary Jones <[log in to unmask]> wrote: v\:* {behavior:url(#default#VML);} o\:* {behavior:url(#default#VML);} w\:* {behavior:url(#default#VML);} .shape {behavior:url(#default#VML);} Yn Oes yr Arth a’r Blaidd, pan oedd yn rhaid creu fersiynau Cymraeg o arwyddion ffyrdd, bu llawer iawn o drafod a dal a pen rheswm am y gwahaniaeth (os o gwbwl) rhwng ‘coach’ a ‘bus’. I’r gwybodusion mae ‘coach’, os cofia i’n iawn, yn gerbyd sy’n mynd ar daith bell gan godi mewn ambell fan penodol yn unig, ond mae ‘bus’ yn wasanaeth sy’n aros i godi a gollwng teithwyr yn bur amal ar daith tipyn byrrach. Wedyn, y cwestiwn o ystyr ‘coets’ fel coets babi yn y gogledd, ac yn y diwedd roedd yn rhaid penderfynu o blaid ‘coets’ am ‘coach’ am nad oedd dim dewis arall. Rwy’n meddwl bod rhai siroedd, er hynny, wedi dewis peidio â gwahaniaethu. --------------------------------- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of GLENYS ROBERTS Sent: 23 March 2007 09:58 To: [log in to unmask] Subject: coach and bus services Oes 'na ffordd o wahaniaethu? Ai dim ond Saeson sy'n gwneud? Mae 'coets' yn gwneud imi feddwl am goets babi. Diolch am unrhyw awgrym. Mae'n dal yn gynnar. Glenys -- This message has been scanned for viruses and dangerous content by SpamAlizer, and is believed to be clean.