Annhebyg y byddai'r rheini'n berthnasol iawn, gan fod y cyfundrefnau gweinyddnl ayyb mor wahanol. Tim ---- Original message ---- From: Megan Hughes-Tomos <[log in to unmask]> Sent: 20 Mar 2007 10:46 +00:00 To: <[log in to unmask]> Subject: ATB: outsourcing Mae'n siwr mai mater o ymagweddu ydi o. Os ydech chi eisiau ymagweddu fel y byd busnes fel y down ar ei draws drwy'r Saesneg, mae'n siwr, bod "allffynonellu"'n fwy derbyniol gennych ond alla i ddychymygu y byddai ambell i gynghorydd yn poeni am ei ddannedd gosod wrth geisio dweud y gair ar lawr siambr Cyngor Gwynedd lle ceir trafodaeth yn Gymraeg. Byddai "rhoi gwaith allan" yn llawer cliriach i bawb gan gynnwys unrhyw aelod o'r cyhoedd a fyddai wedi defnyddio ei hawl ddemocrataidd i eistedd yn y cefn. Rydym hefyd yn llawer rhy barod i geisio bathu term ar sail y Saesneg yn unig. Tybed beth a ddywedir yn Ffrangeg neu Almaeneg? Megan Hughes Tomos Prif Weithredwr/Chief Executive Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru (The Association of Welsh Translators and Interpreters) 01248 371839 -----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message----- Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Ann Corkett Anfonwyd/Sent: 20 March 2007 10:19 At/To: [log in to unmask] Pwnc/Subject: Re: outsourcing Ond mae rhaid bod 'na bethau naturiol a fyddai'n gweithio: strategaeth [ar gyfer] gwaith allanol / strategaeth ynghylch contractwyr allanol?Ann ----- Original Message ----- From: "Dafydd Lewis" <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Tuesday, March 20, 2007 1:01 AM Subject: Re: outsourcing Mae na elfen o 'jargon' yn y gair 'outsource' yng nghyd-destun busnes. Hwn yw'r gair a ddefnyddir am y math yma o beth. Os felly, tybed a ddylid derbyn bod angen gair yn y Gymraeg all ddod yn 'jargon' hefyd. Os byddech yn sgrifennu llyfr busnes, beth fyddech chi'n galw'r bennod ar 'outsourcing strategy'? Mi fyddai 'strategaeth allanoli' neu 'strategaeth allffynonellu' yn gweithio - ond nid 'strategaeth rhoi gwaith allan'. 'Hwnna ydi o'. Dafydd -- No virus found in this incoming message. Checked by AVG Free Edition. Version: 7.5.446 / Virus Database: 268.18.15/728 - Release Date: 20/03/2007 08:07